CYNNWYS
Tudalen 3 Sylwadau Rheoli
Tudalen 10 Adroddiad Taliadau
Tudalen 18 Datganiad am Gyfrifoldebau’r Comisiwn a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu
Tudalen 19 Datganiad ar Reolaeth Fewnol
Tudalen 25 Tystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
Tudalen 27 Datganiad Cyflenwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tudalen 28 Datganiad Costau Gweithredu
Tudalen 29 Datganiad Enillion a Cholledion Cydnabyddedig
Tudalen 30 Mantolen
Tudalen 31 Datganiad Llif Arian
Tudalen 32 Datganiad Costau Gweithredu yn ôl Nodau ac Amcanion
Tudalen 33 Nodiadau i’r Cyfrifon Adnoddau
SYLWADAU RHEOLI
Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â Chyfarwyddyd y Trysorlys a gyhoeddwyd o dan Adran 137 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Y cefndir hanesyddol a Statudol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd sy’n cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Sefydlwyd Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) ym mis Mai 2007 o dan Adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), ac mae ganddo ddyletswydd i sicrhau bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) yr eiddo, y staff a’r gwasanaethau i gyflawni ei ddiben. Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd, a phedwar Aelod arall o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) a etholwyd gan y Cynulliad. Clerc y Cynulliad (a benodwyd o dan Adran 26 o Ddeddf 2006) yw Prif Weithredwr y Comisiwn a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu. Cyfeirir at y Prif Weithredwr a’r staff eraill a benodir o dan baragraff 3 yn Atodlen 2 i Ddeddf 2006 fel “staff y Cynulliad”. Mae’r Comisiwn yn annibynnol ar Weinidogion Llywodraeth Cymru (Gweinidogion Cymru).
Mae’r Comisiwn yn darparu’r seilwaith (gan gynnwys y Senedd a Thŷ Hywel, swyddfeydd y Cynulliad) a’r cyflogau a’r lwfansau sy’n galluogi Aelodau i ymgymryd â’u dyletswyddau yn y Cynulliad ac yn eu swyddfeydd lleol. Mae’n darparu cyfleusterau a staff i ganiatáu i’r Cynulliad a’i Bwyllgorau gyfarfod, ac mae’n codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r broses ddemocrataidd a’u hannog i gymryd rhan ynddi.
Cewch ragor o wybodaeth am waith y Comisiwn yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn ar www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Y Comisiwn
Y Comisiynwyr yn 2008-09 oedd: |
Dyddiad penodi i’r Comisiwn: |
Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Elis-Thomas AC, y Llywydd |
9 Mai 2007 |
William Graham AC |
6 Mehefin 2007 |
Lorraine Barrett AC |
6 Mehefin 2007 |
Peter Black AC |
6 Mehefin 2007 |
Christopher Franks AC |
18 Medi 2007 |
Mae’r Comisiwn wedi cytuno ar drefniadau portffolio sy’n golygu bod gan y gwahanol Gomisiynwyr gyfrifoldeb dros faterion penodol, fel a ganlyn:
Yr Arglwydd Elis Thomas AC – Cadeirydd y Comisiwn– gyda chyfrifoldeb arbennig dros y panel adolygu annibynnol sy’n edrych ar y cymorth ariannol a roddir i Aelodau’r Cynulliad; annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd; arweinyddiaeth ragorol; datblygu pwerau deddfu’r Cynulliad yn y dyfodol a chysylltiadau allanol.
Lorraine Barret AC – Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy – mae’r portffolio hwn yn cynnwys cyfrifoldeb dros iaith; yr amgylchedd a niwtraliaeth carbon; caffael cynaliadwy a rheoli’r ystâd.
Peter Black AC – Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd – mae’r portffolio hwn yn cynnwys ystyried safon y prosesau craffu a deddfu; cyfathrebu allanol; TGCh; addysg dinasyddiaeth; materion cyfreithiol a Rhyddid Gwybodaeth.
Christopher Franks AC – Comisiynydd y Cynulliad sy’n Gwella – mae’r portffolio hwn yn cynnwys gwella gwasanaethau i Aelodau a dinasyddion; cynnwys rhanddeiliaid; cynllunio strategol ac ystyried gwerth am arian.
William Graham AC – Comisiynydd Adnoddau’r Cynulliad – mae’r portffolio hwn yn cynnwys rheoli asedau’r Cynulliad; pobl y Cynulliad (gan gynnwys staff, contractwyr a gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad); cyllideb y Comisiwn; cyflogau a lwfansau’r Aelodau; effeithlonrwydd a llywodraethu da.
Yr uwch reolwyr
Dyma’r uwch reolwyr a gyflogwyd gan y Comisiwn yn ystod y flwyddyn hyd at y dyddiad y llofnodwyd y Cyfrifon:
Claire Clancy |
Prif Weithredwr, Clerc y Cynulliad a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu |
Dianne Bevan |
Prif Swyddog Gweithredu |
Adrian Crompton |
Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad |
Keith Bush |
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Mae’r Adroddiad Taliadau yn y cyfrifon hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyflogau a hawliau pensiwn yr unigolion a enwir, ynghyd â’u hawliadau teithio a chynhaliaeth.
Caiff yr uwch reolwyr eu penodi i’w swyddi’n barhaol.
Adolygiad o brif weithgareddau’r Comisiwn
Prif weithgareddau’r Comisiwn a’i staff yn ystod y flwyddyn oedd hybu gwaith a swyddogaethau’r Cynulliad o dan Ddeddf 2006. Diben y Comisiwn yw gwneud y Cynulliad yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru. At y diben hwn, lluniwyd Strategaeth ar gyfer y Trydydd Cynulliad 2007-2011, ac iddi bum nod strategol a gwerthoedd gweithio cytunedig. Mae’r nodau hyn fel a ganlyn:
Cewch ragor o fanylion am nodau, gwerthoedd a phrif weithgareddau’r Comisiwn yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn yn www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd y Comisiwn yn cyflogi’r hyn sy’n cyfateb i 341.9 aelod o staff amser llawn (303.6 yn 2007-08), a secondiwyd yr hyn sy’n cyfateb i 4.4 aelod o staff amser llawn o sefydliadau eraill (8.8 yn 2007-08). Cyfradd gyffredinol yr absenoldeb salwch dros y flwyddyn oedd 4.2% (4.7% yn 2007-08), a hynny yn erbyn targed ar gyfer y flwyddyn o 4.1%.
Ar 5 Tachwedd 2007, penododd y Comisiwn y pedwar cynghorwr annibynnol a ganlyn, pob un am gyfnod o 3 blynedd:
Mair Barnes |
Tim Knighton |
Richard Calvert |
Yr Athro Robert Pickard |
Cewch ragor o wybodaeth am gefndir am y cynghorwyr annibynnol yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn yn www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Adolygiad o’r flwyddyn ariannol
£44 miliwn oedd yr alldro adnoddau net ar gyfer 2008-09, a gwariwyd £12.4 miliwn ohono ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad (heb gynnwys taliadau i’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd), gan gynnwys lwfansau ar gyfer staff ac adeiladau yn eu hetholaethau/hardaloedd i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau. £12.2 miliwn oedd cost cyflogi staff y Comisiwn a chostau cysylltiedig, a gwariwyd tua £19.3 miliwn ar adeiladau, TGCh a chostau eraill yn ymwneud â rhedeg y Comisiwn; cafwyd £0.1 miliwn o incwm ar ffurf rhent a drwy werthu nwyddau yn Siop y Cynulliad. Arweiniodd hyn at alldro adnoddau net a oedd 4.7% yn is na’r gyllideb adnoddau net a gymeradwywyd, sef £46.2 miliwn (£0.7 miliwn a 1.6% o danwariant yn 2007-08), a gellir priodoli hyn yn bennaf i wariant is na’r disgwyl ar gyflogau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad, cyflogau staff, costau dibrisio asedau a gwariant cyfalaf i greu asedau sefydlog. Gwrthbwyswyd y tanwariant hwn yn rhannol gan wariant uwch ar brosiectau i wella cynaliadwyedd a lleihau effaith garbon ystad y Cynulliad, ac i wella’r seilwaith TGCh. Mae rhagor o wybodaeth am yr alldro adnoddau yn Nodyn 2 sy’n cyd-fynd â’r cyfrifon hyn.
Ar 31 Mawrth 2009, cyfanswm asedau net y Comisiwn oedd £63.5 miliwn (£67.3 miliwn ar 31 Mawrth 2008).
Mae’r cyfrifon hyn hefyd yn nodi gwariant o £0.635 miliwn yng nghyswllt costau cyflogau’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Y Comisiwn sy’n talu’r cyflogau hyn ond dônt yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru. Gan hynny, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr alldro adnoddau net.
Mae Cofrestr Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill Aelodau’r Cynulliad yn dal i gael ei diweddaru a’i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad.
Datblygiadau yn y dyfodol
Mae’n rhaid ystyried y cefndir cyllidol anodd sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Corff Corfforaethol cymharol newydd yw’r Cynulliad, a hwnnw’n dal i ddatblygu. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith darparu’r Cynulliad â’r eiddo, y staff a’r gwasanaethau sy’n angenrheidiol er mwyn i’r Cynulliad gyflawni ei ddiben. Ond ar yr un pryd, rhaid i’r Cynulliad ddangos stiwardiaeth briodol o arian cyhoeddus drwy leihau costau a chwilio am ffyrdd o fod yn fwy effeithlon ac arbed arian. Er mwyn cael y cydbwysedd gorau rhwng y ddau beth hanfodol hyn, mae Rhaglen Newid wrthi’n cael ei sefydlu. Diben y rhaglen hon fydd blaenoriaethu prosiectau yn unol â nodau strategol y Comisiwn. Y bwriad yw goruchwylio a chydlynu rhaglenni er mwyn i’r prosesau buddsoddi, y gallu sefydliadol a’r capasiti ddod at ei gilydd i sicrhau canlyniadau i’r Cynulliad.
Mae darparu gwasanaethau i gynorthwyo gwaith deddfwriaethol, gwaith craffu a busnes arall y Cynulliad yn flaenoriaeth i’r Comisiwn. Newidiwyd strwythur y system bwyllgorau yn 2008-09 er mwyn gwella pa mor effeithlon ac effeithiol oedd honno, yn enwedig o ran craffu ar ddeddfwriaeth. Bydd y Comisiwn yn cyfarfod â’r Pwyllgor Busnes er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n cyd-fynd â datblygiadau yn y dyfodol i’r broses o reoli busnes ffurfiol y Cynulliad.
Elfen arall sy’n ymwneud â defnyddio adnoddau’n briodol yw’r pryder ymhlith y cyhoedd am y treuliau sy’n cael eu talu i wleidyddion etholedig – pryder na welwyd ei debyg o’r blaen. Ar 6 Gorffennaf 2009, cyhoeddwyd adroddiad y Panel Annibynnol ar Gymorth Ariannol i Aelodau’r Cynulliad. Panel a sefydlwyd gan y Comisiwn yn 2008 yw hwn, ac mae’r adroddiad yn gyfle i sefydlu trefniadau priodol, teg, effeithiol a thryloyw.
Yn hydref 2009, bydd cyfleusterau newydd yn agor yn y Pierhead ar gyfer hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch gwaith y Cynulliad. Mae effaith amgylcheddol ystad y Comisiwn yn dal yn elfen allweddol yn ein gwaith cynllunio. Mae’n debygol y bydd ailwampio’r gwasanaethau TGCh yn brosiect arwyddocaol iawn dros y blynyddoedd nesaf. Nod hynny yw defnyddio adnoddau’r Cynulliad mewn ffordd fwy cydlynol ac effeithlon, gan gynnwys cynyddu’r capasiti a’r gallu – fel democratiaeth ddigidol, er enghraifft.
Yn olaf, mae’r gwaith cynllunio wedi dechrau mewn perthynas â heriau gweinyddol ac ariannol etholiadau’r Cynulliad yn 2011 a’r Pedwerydd Cynulliad.
Risgiau ac Ansicrwydd
Mae gan y Comisiwn Fframwaith Rheoli Risgiau a Buddion i godi ymwybyddiaeth o risg, i reoli risgiau’n briodol ac i fanteisio ar gyfleoedd i wella. Cewch ragor o wybodaeth yn y Datganiad am Reolaeth Fewnol yn y cyfrifon hyn. Mae’r Comisiwn wedi sefydlu Cofrestr Asedau Gwybodaeth ac mae Fframwaith Polisi Diogelwch wrthi’n cael ei ddatblygu yn seiliedig ar Ganllawiau Swyddfa’r Cabinet ac arferion adolygu, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â diogelwch data. Ni chanfuwyd unrhyw achosion o dorri polisïau diogelwch data yn ystod 2008-09.
Cydymffurfio â’n Dyletswyddau
Mae gan y Comisiwn nifer o ddyletswyddau, fel cyfle cyfartal, iechyd a diogelwch, hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac ati. Cewch ragor o wybodaeth am y modd y mae’r Comisiwn yn cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn yn yr Adroddiad Blynyddol a gyhoeddir ar y cyd â’r cyfrifon hyn yn www.assemblywales.org a www.cynulliadcymru.org
Rhwymedigaethau Pensiwn
Mae’r modd y caiff rhwymedigaeth pensiwn eu trin a manylion y cynlluniau pensiwn perthnasol wedi’u gosod allan yn y Datganiad o Bolisïau Cyfrifyddu yn y cyfrifon hyn ar dudalen 30, Nodyn 1.
Y polisi yng nghyswllt Talu Cyflenwyr
Targed perfformiad allweddol y Comisiwn ar gyfer 2008-09 oedd talu ei holl gyflenwyr o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn anfonebau, os nad oedd anghydfod yn eu cylch. Ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn, talwyd 98% o’r rheini’n brydlon (78% oedd cyfartaledd 2007-08) ac mae’r targed ar gyfer 2009-10 wedi’i wella gydag ymrwymiad i dalu o fewn 10 diwrnod.
Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
Mae gan y Comisiwn Bwyllgor Llywodraethu Corfforaethol sy’n cynorthwyo’r Comisiwn a’r Swyddog Cyfrifyddu i fonitro ac adolygu’r trefniadau llywodraethu corfforaethol, y trefniadau rheoli risg a’r system rheoli. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys tri chynghorwr annibynnol (un ohonynt yn cadeirio) ac un o Gomisiynwyr y Cynulliad. Yr aelodau yw William Graham AC, Richard Calvert (Cadeirydd), Tim Knighton a’r Athro Robert Pickard. Roedd gwaith y Pwyllgor yn 2008-09 yn cynnwys ystyried y cyfrifon blynyddol cyntaf a luniodd y Comisiwn ar gyfer 2007-08; rhoi cyngor am y trefniadau sicrwydd sy’n gysylltiedig â’r Datganiad am Reolaeth Fewnol; adolygu’r camau a gymerwyd i ddiogelu data; a rhoi cyngor am ddatblygu cynllun parhad busnes.
Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Mae gan y Comisiwn Bwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol sy’n cynorthwyo’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus, yn ogystal â chynorthwyo’n benodol gyda’r cyfrifoldebau dros bolisïau a systemau gwerthuso a thaliadau. Aelodau’r Pwyllgor yw Tony Morgan, Cadeirydd Archwilio yn Geldards ac uwch bartner sydd wedi ymddeol yn PricewaterhouseCoopers, yr Athro Robert Pickard, a Tim Knighton, dau o’n cynghorwyr annibynnol. Yn ystod y flwyddyn, mae gwaith y Pwyllgor wedi cynnwys meincnodi y graddfeydd cyflog uchaf yn erbyn sefydliadau tebyg a rhoi sylwadau am yr egwyddorion posibl a fyddai’n sail i strategaeth wobrwyo.
Archwilio
Mae’r Cyfrifon yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn unol ag Adran 137 o Ddeddf 2006. Y gost y cytunwyd arni ar gyfer archwilio cyfrifon 2008-09 yw £63,475 (£49,250 yn 2007-08).
Datgan Gwybodaeth sy’n Berthnasol i’r Archwiliad
Fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, yr wyf wedi cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r archwiliad ac i sicrhau bod yr archwilwyr hefyd yn ymwybodol o’r wybodaeth hon.
Digwyddiadau ers Diwedd y Cyfnod Ariannol
Ni fu unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol rhwng diwedd y cyfnod ariannol a’r dyddiad y cwblhawyd y cyfrifon hyn.
Claire Clancy |
Dyddiad: 9 Gorffennaf 2009 |
ADRODDIAD TALIADAU
Polisi taliadau
Hyd at 3 Mai 2007, roedd cyflog sylfaenol Aelodau’r Cynulliad yn cyfateb i 76.5% o’r lefel a bennwyd ar gyfer Aelodau Seneddol. I gydnabod y cyfrifoldebau ychwanegol a roddwyd iddynt gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn dilyn cyngor gan banel o bedwar aelod annibynnol ac un Comisiynydd, penderfynodd y Comisiwn y dylai cyflog sylfaenol Aelodau’r Cynulliad godi i 82% o’r lefel a bennwyd ar gyfer Aelodau Seneddol, ac y dylai hyn fod yn weithredol o 4 Mai 2007 ymlaen.
Felly, ar 1 Ebrill 2007, cyflog sylfaenol blynyddol Aelodau’r Cynulliad, ac eithrio cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn y cyflogwr, oedd £46,804 ac fe gododd i £50,169 ar 4 Mai 2007, i £50,692 ar 1 Tachwedd 2007, ac i £51,899 ar 1 Ebrill 2008. Dewisodd naw Aelod beidio â derbyn eu cyflogau llawn ar gyfer blwyddyn ariannol 2008-09.
Roedd gan yr Aelodau a ganlyn hawl i gyflogau blynyddol ychwanegol fel a ganlyn:
|
O 1 Ebrill 2007 |
O 1 Tachwedd 2007 |
O 1 Ebrill 2008 |
Y Llywydd ac Arweinydd yr wrthblaid fwyaf |
£40,225 |
£40,645 |
£40,759 |
Y Dirprwy Lywydd |
£25,301 |
£25,566 |
£25,637 |
Prif Chwip yr Wrthblaid a Chomisiynwyr y Cynulliad |
- |
- |
£11,372 |
Arweinwyr y gwrthbleidiau ac eithrio’r fwyaf. Cadeiryddion y pwyllgorau craffu1 a’r Pwyllgorau Cyllid ac Archwilio. |
£5,873 |
£5,934 |
£11,372 |
Cadeiryddion y pwyllgorau eraill2 |
- |
- |
£5,950 |
1 Y pwyllgorau craffu yw Cymunedau a Diwylliant; Menter a Dysgu; Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol; Cynaliadwyedd; a 5 Pwyllgor Deddfwriaeth (a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2008).
2 Y pwyllgorau eraill yw Plant a Phobl Ifanc; Cyfle Cyfartal; Materion Ewropeaidd ac Allanol; Deisebau; Safonau Ymddygiad; Is-ddeddfwriaeth.
O’r rheini a oedd â hawl i gael cyflogau ychwanegol, ni wnaeth 12 Aelod dderbyn y swm llawn a oedd yn ddyledus iddynt yn 2008-09.
Nid yw’r Comisiwn yn rhoi buddion mewn nwyddau.
Mae Aelodau’r Cynulliad yn aelodau o Gynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chaiff cyfrifon blynyddol eu cyhoeddi ar wahân ar gyfer y cynllun hwn ar wefan y Cynulliad, www.cynulliadcymru.org.
Mae’r Comisiwn yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig Gweinidogion Cymru a chaiff y rhain eu datgelu mewn nodyn yng Nghyfrifon Adnoddau Cyfunol Llywodraeth Cymru, er bod y taliadau’n dod o gyfrifon adnoddau’r Comisiwn.
Ym mis Awst 2008, sefydlwyd Panel Adolygu Annibynnol gan Gomisiwn y Cynulliad i edrych ar bob agwedd ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys taliadau a lwfansau ar gyfer teithio, llety, swyddfeydd etholaethol a staff cymorth. Cylch gwaith y Panel oedd:
Cyhoeddodd y Panel ei adroddiad a’i argymhellion ar 6 Gorffennaf 2009.
Penodwyd pedwar cynghorwr annibynnol i’r Comisiwn ar 5 Tachwedd 2007, a hynny am gyfnod o dair blynedd. Maent yn cael tâl cydnabyddiaeth heb drefniadau pensiwn o £5,000 y flwyddyn (£7,000 y flwyddyn i Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol).
Y Comisiwn sy’n penderfynu ar dâl y Prif Weithredwr. Y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Comisiwn, sy’n penderfynu ar dâl y tri chyfarwyddwr. Mae Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol, sy’n cynnwys tri o’r cynghorwyr annibynnol, yn cynghori’r Prif Weithredwr a’r Comisiwn. Mae paragraff 3 yn Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sicrhau bod amodau a thelerau staff y Cynulliad yn debyg i amodau a thelerau staff Llywodraeth Cymru. Yn 2007-08, roedd tâl uwch reolwyr y Comisiwn yn cyfateb i dâl uwch weision sifil. Ers 1 Ebrill 2008, ar ôl i’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol ystyried y cynigion, ymgynghori a chael cytundeb y Comisiwn, crëwyd graddfa gyflog unedig i’r holl staff a gyflogir gan y Comisiwn, gan gynnwys y Cyfarwyddwyr a’r Prif Weithredwr.
Contractau gwasanaeth
Penodir staff y Comisiwn, yn unol â thelerau ac amodau a bennir gan y Comisiwn, yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored ond maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle ceir penodi heb ddilyn y drefn arferol. Mae’r egwyddorion hyn yn cyd-fynd â threfniadau’r gwasanaeth sifil. Nid yw staff yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil ond mae ganddynt hawl i fod yn aelodau o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS)
Oni nodir yn wahanol isod, mae staff y Cynulliad y mae’r adroddiad hwn yn berthnasol iddynt, yn cael eu penodi’n benagored nes y byddant yn cyrraedd oedran pensiwn o dan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Yna cânt wneud cais i barhau i weithio y tu hwnt i’r oedran honno. Os terfynir eu cyflogaeth yn gynnar am unrhyw reswm ac eithrio camymddygiad, bydd yr unigolyn yn cael iawndal, fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.
Cyflogau a hawliau pensiwn
Mae’r adrannau a ganlyn yn rhoi manylion am dâl a phensiynau deiliaid swyddi ac uwch swyddogion. Cânt eu cyflwyno yn ôl bandiau cyflog a phensiwn.
Mae gan Gomisiynwyr y Cynulliad, ac eithrio’r Llywydd, hawl i gael cyflog blynyddol o £11,372 yn ychwanegol at eu tâl am fod yn Aelodau Cynulliad. Nid yw eu manylion pensiwn wedi’u cynnwys uchod gan mai dim ond rhan o’u tâl sy’n deillio o’u swyddogaethau fel Comisiynwyr. Ni ellir gwahanu eu pensiwn cronnus a’u CETV fel Comisiynwyr oddi wrth gyfanswm y symiau a gronnir.
Enw a theitl |
Cyflog 2008/09 |
Cyflog 2007/08 |
Gwir gynnydd yn y pensiwn a’r cyfandaliad cysylltiedig yn 65 oed |
Cyfanswm y pensiwn cronedig yn 65 oed a’r cyfandaliad cysylltiedig ar 31/3/09 |
*CETV ar 31/3/08 |
CETV ar 31/3/09 |
Gwir gynnydd mewn CETV |
|
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
£’000 |
Deiliaid swyddi |
|||||||
Yr Arglwydd Elis Thomas AC – Llywydd |
90-95 |
90-95 |
0-2.5 |
30-35 |
651 |
685 |
7 |
Rosemary Butler AC – Dirprwy Lywydd |
75-80 |
70-75 |
0-2.5 |
15-20 |
255 |
284 |
21 |
Uwch Reolwyr |
|||||||
Enw a theitl |
Cyflog 2008/09 |
Cyflog 2007/08 |
Gwir gynnydd yn y pensiwn a’r cyfandaliad cysylltiedig yn 60 oed |
Cyfanswm y pensiwn cronedig yn 60 oed a’r cyfandaliad cysylltiedig ar 31/3/09 |
*CETV ar31/3/08 |
CETV ar31/3/09 |
Gwir gynnydd mewn CETV |
Claire Clancy – Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad |
140-145 |
120-125 |
2.5-5.0 ynghyd â chyfandaliad o 10-15 |
45-50 ynghyd â chyfandaliad o 145-150 |
747 |
896 |
80 |
Dianne Bevan – Prif Swyddog Gweithredu |
115-120 |
105-110 |
2.5-5.0 |
45-50 |
613 |
712 |
41 |
Adrian Crompton – Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad |
95-100 |
80-85 |
2.5-5.0 ynghyd â chyfandaliad o 5-10 |
20-25 ynghyd â chyfandaliad o 65-70 |
268 |
332 |
38 |
Keith Bush – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol |
105-110 |
50-55 (100-105 ar gyfer y flwyddyn lawn ) |
0-2.5 |
10-15 |
212 |
274 |
41 |
*Mae’r ffigurau hyn yn wahanol i’r ffigurau terfynol yng nghyfrifon y llynedd. Mae hyn gan fod y ffactorau CETV wedi cael eu diweddaru i gydymffurfio â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008
Cyflogau
Y cyflogau yn y tabl uchod yw’r swm a enillwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ac maent yn cynnwys yr holl daliadau taladwy. Nid ydynt yn cynnwys Yswiriant Gwladol na chyfraniadau pensiwn. O fis Mai 2007 ymlaen talwyd costau cyflogau’r Llywydd a’r Is-lywydd yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru.
Gwerth trosglwyddo sy’n cyfateb i arian parod (CETV)
Gwerth cyfalafol buddiannau'r cynllun pensiwn a gronnwyd gan Aelod ar adeg benodol ac a aseswyd gan actwari yw CETV. Y buddiannau a gaiff eu prisio yw buddiannau cronedig yr Aelod ac unrhyw bensiwn amodol a ddelir gan eu priod sy'n daladwy o'r cynllun. Taliad yw CETV a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i ddiogelu buddiannau pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr Aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd eisoes yn y cynllun blaenorol. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn nodi'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn ar ôl dod yn aelod llawn o'r cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae'r broses datgelu yn berthnasol iddo. Mae ffigurau CETV yn cynnwys gwerth unrhyw fuddiant pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall a drosglwyddwyd gan yr unigolyn i gynllun newydd; buddiant y mae’r cynllun wedi derbyn taliad trosglwyddo ar ei gyfer sy'n gymesur â'r rhwymedigaethau pensiwn ychwanegol a ysgwyddir. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddiant pensiwn ychwanegol a gronnodd aelod drwy brynu blynyddoedd ychwanegol o wasanaeth pensiwn yn y cynllun ar ei draul ei hun. Cyfrifir CETV o fewn y fframwaith a bennir gan y Sefydliad a'r Gyfadran Actiwarïaid ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl mewn buddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a all fod yn ddyledus pan hawlir buddion pensiwn.
Gwir gynnydd mewn CETV
Mae’r gwir gynnydd mewn CETV yn adlewyrchu’r cynnydd a ariennir, i bob pwrpas, gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig sy’n seiliedig ar chwyddiant, cyfraniadau sy’n cael eu talu gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar ddechrau a diwedd y cyfnod ariannol. Cafodd y ffactorau a ddefnyddir i gyfrifo’r CETV ar gyfer Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil eu diwygio yn ystod 2008-09 yn unol â’r Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol na phosibl mewn buddion o ganlyniad i’r Dreth Lwfans Gydol Oes a all fod ddyledus pan hawlir buddion pensiwn.
Buddion mewn nwyddau
Ni thalwyd unrhyw fuddion mewn nwyddau i’r Prif Weithredwr a’r Clerc, y Cyfarwyddwyr, y Llywydd na’r Dirprwy Lywydd.
Teithio a chynhaliaeth
Yn ystod y flwyddyn, roedd y taliadau a wnaed i’r Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth a threuliau eraill fel a ganlyn:
|
Claire Clancy Prif Weithredwr a Chlerc |
Dianne Bevan Prif Swyddog Gweithredu |
Adrian Crompton Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad |
Keith Bush Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol |
|
£ |
£ |
£ |
£ |
Milltiroedd ceir |
516 |
56 |
46 |
- |
Llogi tacsis/ceir |
89 |
32 |
22 |
51 |
Teithiau awyr |
- |
- |
- |
- |
Trafnidiaeth gyhoeddus |
12 |
20 |
8 |
- |
Llety |
168 |
265 |
390 |
229 |
Cynhaliaeth/treuliau |
50 |
136 |
24 |
- |
CYFANSWM |
835 |
509 |
490 |
280 |
Pensiynau
Darperir buddion pensiwn i staff y Cynulliad drwy drefniadau Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk). Yn ystod 2008-09, roedd cyfraniadau’r cyflogwyr ar un o bedair cyfradd yn yr ystod 17.1% i 25.5% o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog (nad ydynt wedi newid ers cyfraddau 2007-08). Bydd Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn proses brisio lawn. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i dalu cost y buddion a gronnwyd yn ystod 2008-09 i’w talu pan fydd yr aelod yn ymddeol, yn hytrach na’r buddion a dalwyd yn ystod y cyfnod hwn i’r rheini sydd eisoes yn derbyn pensiwn.
Ers 1 Hydref 2002, rhaid i gyflogeion ymuno ag un o bedwar cynllun buddion ‘cynllun terfynol’ diffiniedig statudol (clasurol, premiwm, clasurol a mwy a nuvos). Ni chaiff y cynlluniau eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu gan arian y bydd Senedd y DU yn pleidleisio arno bob blwyddyn. Caiff pensiynau sy'n daladwy o dan y cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy eu cynyddu'n flynyddol yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Manwerthu. Roedd y rheini a ymunodd o’r newydd rhwng 1 Hydref 2002 a 29 Gorffennaf 2007 cael dewis bod yn aelod o'r cynllun premiwm neu ymuno â threfniant cyfranddeiliaid 'prynu arian' o ansawdd da sy'n cynnwys cyfraniad sylweddol gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth).Gall y rheini a ymunodd ar 30 Gorffennaf 2007 neu wedyn ymuno â’r cynllun nuvos neu gallant ddewis cyfrif pensiwn partneriaeth.
Mae cyflogeion yn talu cyfraniadau ar gyfradd o 1.5% o enillion pensiynadwy ar gyfer y cynllun clasurol a 3.5% ar gyfer y cynllun premiwm, clasurol a mwy a nuvos. Mae buddiannau yn y cynllun clasurol yn crynhoi ar gyfradd o 1/80fed o gyflog pensiynadwy ar gyfer bob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn adeg ymddeol. Mae buddiannau'n crynhoi ar gyfradd o 1/60fed o gyflog pensiynadwy terfynol ar gyfer bob blwyddyn o wasanaeth yn y cynllun premiwm. Yn wahanol i'r cynllun clasurol, nid oes unrhyw gyfandaliad awtomatig ond gall aelodau roi rhan o'u pensiwn heibio i ddarparu cyfandaliad. Mae'r cynllun clasurol a mwy yn ei hanfod yn amrywiad o'r cynllun premiwm, ond caiff buddiannau mewn perthynas â gwasanaeth cyn 1 Hydref 2002 eu cyfrifo'n fras fel y cynllun clasurol.Cynllun cyfartaledd gyrfa yw Nuvos gyda buddion yn cronni ar gyfradd o 2.3 y cant o’r cyflog bob blwyddyn, a chaiff ei ailbrisio’n unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ar ddiwedd bob blwyddyn.
Trefniant pensiwn cyfranddeiliaid yw cyfrif pensiwn partneriaeth. Mae'r cyflogwr yn talu cyfraniad sylfaenol o rhwng 7% a 15% (yn dibynnu ar oedran yr aelod) i gynnyrch pensiwn cyfranddeiliaid a ddewisir gan y cyflogai. Nid oes angen i'r cyflogai gyfrannu ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.8% pellach o gyflog pensiynadwy i gynnwys cost yswiriant buddiant risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch).
Cewch ragor o fanylion am drefniadau Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar y wefan www.civilservice-pensions.gov.uk
Mae Aelodau’r Cynulliad yn perthyn i Gynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynllun buddion diffiniedig yw hwn sy’n berthnasol i gyfanswm hawliau cyflog aelodau gan gynnwys y symiau a gaiff eu talu i ddeiliaid swyddi a Gweinidogion Cymru. Caiff y Cynllun ei weinyddu gan Ymddiriedolwyr, ac mae’n gwbl annibynnol ar Gomisiwn y Cynulliad. Mae cyfrifon y Cynllun i’w gweld ar www.cynulliadcymru.org
Prif fuddion y cynllun yw pensiwn o naill ai 1/50fed neu 1/40fed o gyflog terfynol yr aelod am bob blwyddyn o wasanaeth pan fydd yn ymddeol yn 65 oed. Mae’r pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Manwerthu. Mae aelodau’n cyfrannu swm sy’n cyfateb i 6% o gyfanswm eu cyflog (gan gynnwys unrhyw elfennau ychwanegol y mae gan ddeiliaid swyddi a Gweinidogion Cymru hawl iddynt) i gael cyfradd groniadau o 1/50fed, neu 10% o gyfanswm eu cyflog i gael cyfradd groniadau o 1/40fed, gyda’r Comisiwn yn cyfrannu swm sy’n cyfateb i 23% o gyfanswm eu cyflog (yn codi i 23.8% o 1 Ebrill 2008).
Claire Clancy |
Dyddiad: 9 Gorffennaf 2009 |
DATGANIAD AM GYFRIFOLDEBAU’R COMISIWN A’R PRIF SWYDDOG CYFRIFYDDU
Mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi paratoi datganiad o gyfrifon yn unol â chyfarwyddyd y Trysorlys gan lynu wrth yr egwyddorion cyfrifyddu a’r gofynion datgelu sydd wedi’u gosod allan yn y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol. Paratowyd y Cyfrifon Adnoddau ar sail cyfrifyddu croniadau ac maent yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn, yr alldro adnoddau net, yr adnoddau a ddyrannwyd i gyflawni amcanion, y datganiad costau gweithredu, enillion a cholledion cydnabyddedig a llifau arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.
Wrth baratoi’r cyfrifon, mae’r Prif Weithredwr a’r Clerc wedi:
O dan Adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Comisiwn. Mae cyfrifoldebau perthnasol y Prif Swyddog Cyfrifyddu, gan gynnwys y cyfrifoldeb dros gywirdeb a chysondeb yng nghyllid y Comisiwn a dros gadw cofnod priodol, wedi’u gosod allan mewn memorandwm a gyhoeddwyd gan y Trysorlys.
Claire Clancy |
Dyddiad: 9 Gorffennaf 2009 |
DATGANIAD AM REOLAETH FEWNOL
Cwmpas y cyfrifoldeb
Fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb dros gynnal system gadarn o reolaeth fewnol sy’n galluogi Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei bolisïau, ei nodau a’i amcanion gan hefyd ddiogelu’r arian a’r asedau cyhoeddus y mae gennyf gyfrifoldeb personol drostynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a roddwyd arnaf gan y Trysorlys. Mae’n ddyletswydd arnaf i, fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, i gyfuno’r cyfrifoldebau hyn â’m cyfrifoldeb i wasanaethu’r Comisiynwyr yr wyf yn atebol iddynt ac sy’n rhoi awdurdod i mi.
Mae’r Comisiwn yn gosod allan nodau, amcanion, polisïau a gwerthoedd y sefydliad ac, yn unol â darpariaethau paragraff 7 yn Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y mae wedi dirprwyo’i swyddogaethau, gan gynnwys ei gyfrifoldeb dros reoli staff, i mi fel Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, yn amodol ar rai eithriadau ac amodau penodol. Mae gwaith y Cynulliad a’r Comisiwn yn ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd a’r cyfryngau, ac mae iddo oblygiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol.
Yn ystod 2008-09, cefais i, fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu, gyngor gan y canlynol:
§ Comisiwn y Cynulliad, o ran polisi, gwerthoedd a chyfeiriad strategol;
§ Fy nhri Cyfarwyddwr, sef y Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, ynghyd â Phennaeth yr Uned Gorfforaethol, o ran datblygu a darparu gwasanaethau a’r gallu i gyflawni;
§ Y Bwrdd Rheoli (sy’n cynnwys y Cyfarwyddwyr a’r holl Benaethiaid Gwasanaeth) a staff eraill sydd â chylch gorchwyl yn ymwneud â llywodraethu a rheolaeth ariannol;
§ Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y Comisiwn (sy’n cyflawni swyddogaeth Pwyllgor Archwilio) sy’n cynnwys un Comisiynydd a thri o gynghorwyr annibynnol y Comisiwn , gydag un ohonynt yn cadeirio;
§ Archwilwyr mewnol ac allanol y Comisiwn, RSM Bentley Jennison, a Swyddfa Archwilio Cymru.
Diben y system rheolaeth fewnol
Cynllunnir y system rheolaeth fewnol i geisio cynnal lefel resymol o risg yn hytrach na cheisio dileu pob risg wrth geisio cyflawni polisïau, nodau ac amcanion; gan hynny, ni ellir rhoi sicrwydd absoliwt o effeithiolrwydd, dim ond sicrwydd rhesymol. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi’i seilio ar broses barhaus a gynlluniwyd i nodi a blaenoriaethu’r risgiau wrth geisio cyflawni polisïau, nodau ac amcanion y Cynulliad, i bwyso a mesur pa mor debygol yw hi i’r risgiau hynny gael eu gwireddu, ac i’w rheoli’n effeithlon, yn effeithiol ac yn economaidd. Datblygwyd y system rheolaeth fewnol ymhellach yn ystod y flwyddyn, gan fanteisio ar ein profiad, canllawiau arferion gorau a chyngor gan gynghorwyr annibynnol y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Mae’r system yn cydymffurfio â chyfarwyddyd y Trysorlys ac roedd yn ei lle ar 31 Mawrth 2009 ac hyd at y dyddiad y cymeradwywyd yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol.
Y gallu i ymdrin â risg
Yr wyf i a’m Cyfarwyddwyr wedi arwain y gwaith o ddatblygu cyfundrefn rheoli risg a buddion, yn unol ag arferion da, ar gyfer y sefydliad cyfan. Yr ydym wedi gweithio drwy’r Penaethiaid Gwasanaeth i wella rhagor a sefydlu diwylliant sy’n gwireddu cyfleoedd drwy wella’r ffordd y caiff risgiau eu trin. Mae’r Polisi Rheoli Risg a Buddion yn garreg sylfaen allweddol yn system rheolaeth fewnol a threfniadau llywodraethu corfforaethol y Comisiwn. Mae gwaith effeithiol i reoli risg a buddion yn cael ei wneud ar lefelau gweithredol a strategol. Mae’r elfennau allweddol yn ein dull o ymdopi â risg yn cynnwys:
Rheolaeth fewnol
Mae fframwaith risg y Comisiwn yn rhan o system ehangach ar gyfer rheolaeth fewnol sy’n ein cynorthwyo i lywodraethu’n gorfforaethol mewn ffordd effeithiol. Mae’r system hon wedi’i datblygu a’i lledaenu drwy’r holl sefydliad yn ystod y flwyddyn. Yn benodol:
Diogelwch Gwybodaeth
Ar ôl adolygu’r trefniadau diogelwch gwybodaeth yn hydref 2007, mae nifer o gamau wedi’u cymryd, gan gynnwys cyflwyno gwell canllawiau a chodi ymwybyddiaeth am faterion sy’n ymwneud â diogelwch gwybodaeth a’r risg i’n henw da yn sgil unrhyw wendidau. Mae cofrestr asedau gwybodaeth wedi cael ei datblygu ac wrthi’n cael ei harchwilio. Mae gennym Grŵp Fframwaith Polisi Diogelwch sydd wedi datblygu canllawiau Swyddfa’r Cabinet yn gynllun gweithredu ar gyfer y Cynulliad, ac yr ydym yn gwneud cynnydd da gyda’r gwaith hwnnw. Bydd y camau hyn, ynghyd ag ymwybyddiaeth barhaol ymhlith y staff, yn gymorth i sicrhau bod ein harferion yn bodloni safonau diogelwch da, neu’n rhagori arnynt. Y Prif Swyddog Gweithredu yw Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth y Comisiwn.
i-Change
Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd adolygiad annibynnol o bwys o’r holl dechnoleg a ddefnyddir i gynnal busnes y Cynulliad a’r gwasanaethau a ddarperir i Aelodau’r Cynulliad, y staff a’r cyhoedd. Wrth gynnal yr adolygiad, ymgynghorwyd yn helaeth gyda rhanddeiliaid mewnol, grŵp cyfeirio bychain, darparwyr gwasanaethau a Llywodraeth Cymru. Y prif themâu a ddaeth i’r amlwg oedd yr angen am raglen gwella busnes i ddarparu newidiadau, cysylltu a meithrin perthynas gyda phobl Cymru, rheoli gwybodaeth yn well a gweithio’n gallach.
Ynghyd â’u cyflogau, mae gan yr Aelodau yr hawl i gael gwahanol lwfansau sydd â’r nod o ad-dalu’r costau a ysgwyddwyd ganddynt er mwyn cyflawni eu dyletswyddau. Mae’r hawl i gael y lwfansau hyn wedi’i nodi yn y ‘Penderfyniadau’ a wneir gan y Comisiwn o dan y rheolau Sefydlog, gyda chanllawiau gan y Comisiwn yn cyd-fynd â hynny ar gyfer dehongli’r rheolau. Mae’r Penderfyniadau presennol a’r modd y cânt eu rhoi ar waith wedi’i seilio i raddau helaeth ar arferion Tŷ’r Cyffredin. Er bod prosesau rheoli cadarn yn eu lle i sicrhau bod y costau a hawlir yn ôl wedi’u hysgwyddo mewn gwirionedd ( chaiff y system lwfansau ei harchwilio), yr Aelodau eu hunain sy’n bennaf gyfrifol am sicrhau bod y treuliau hynny wedi’u hysgwyddo mewn ffordd resymol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu gwaith. Felly, mae’n anochel bod effeithiolrwydd y systemau rheoli mewnol yn gyfyngedig o dan y trefniadau presennol.
Yn ystod y flwyddyn ariannol, gwnaed nifer o geisiadau am wybodaeth gan y Cynulliad o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yn gofyn am holl fanylion y lwfansau a hawliwyd gan yr Aelodau yn y Blynyddoedd Ariannol 2006-07 a 2007-08. Cytunodd y Comisiwn y byddai angen adnoddau sylweddol i gasglu, prosesu ac chadarnhau’r wybodaeth y gofynnwyd amdani er mwyn ei rhyddhau cyn gynted â phosibl, ond fod yn rhaid buddsoddi yn hynny er mwyn dangos ymrwymiad i weithredu’n agored ac i wella dealltwriaeth y cyhoedd o’r modd y mae’r Comisiwn yn stiwardio arian cyhoeddus. At hynny, mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i gyhoeddi’r wybodaeth hon yn rheolaidd yn y dyfodol, heb fod angen cael cais penodol am hynny. Mae mabwysiadu polisi i gyhoeddi gwybodaeth fanwl am y lwfansau a dalwyd i Aelodau wedi galluogi’r cyhoedd i graffu am y tro cyntaf ar y modd y defnyddir arian cyhoeddus yn y ffordd hwn, ac mae hynny wedi cryfhau’r system rheolaeth fewnol ac wedi gwella effeithiolrwydd y modd y rheolir y gwariant hwn yn sylweddol.
At hynny, sefydlwyd Panel Adolygu Annibynnol yn ystod 2008-09 i gynnal adolygiad manwl o’r cymorth ariannol a roddir i Aelodau’r Cynulliad, a’r dulliau cysylltiedig o reoli hynny. Mae’r Panel wedi bod yn bwrw ati gyda’i waith a chyhoeddodd ei adroddiad ar 6 Gorffennaf 2009. Bydd angen i’r Comisiwn ystyried sut i ymateb i argymhellion y Panel, ond mae’n debygol y bydd y broses hon yn rhoi cyfle i ddiwygio’r system lwfansau mewn modd a fydd yn gwneud yr hawliau’n gliriach ac yn haws eu defnyddio.
Mae sicrhau bod Aelodau yn defnyddio adnoddau’r Cynulliad yn briodol, naill ai’n uniongyrchol neu drwy’r system lwfansau, yn rhan o gylch gorchwyl Comisiynydd Safonau y Cynulliad, sy’n berson annibynnol a benodir gan y Cynulliad. Bydd y Comisiynydd yn rhoi cyngor a chymorth gydag unrhyw fater o egwyddor sy’n ymwneud ag ymddygiad Aelodau’r Cynulliad, a bydd yn ymchwilio’n annibynnol i gwynion bod Aelodau’r Cynulliad wedi gweithredu’n groes i unrhyw god, protocol neu benderfyniad gan y Cynulliad. Bydd y Comisiynydd yn tynnu fy sylw at unrhyw faterion perthnasol a allai godi yn ystod ei ymchwiliadau – er enghraifft, unrhyw amwyster yng ngeiriad penderfyniadau neu ganllawiau na ddylai fod yno.
Mae Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad wedi cyflwyno Mesur Cynulliad arfaethedig i roi sail statudol i swyddfa’r Comisiynydd Safonau ac i gryfhau pwerau ymchwilio’r Comisiynydd. Bydd y Mesur arfaethedig, a fydd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad yn ystod blwyddyn ariannol 2009/10, yn cynnwys dyletswydd penodol ar ran y Comisiynydd i roi gwybod i’r Swyddog Cyfrifyddu am unrhyw faterion sy’n berthnasol i’w swydd a allai ddod i’r amlwg yn ystod ymchwiliad, fel amwyster yn y rheolau perthnasol neu wendidau yn y system reoli.
Adolygu effeithiolrwydd
Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb dros adolygu effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol. Mae fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol wedi’i seilio ar waith yr archwilwyr mewnol, y Cyfarwyddwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw’r fframwaith rheolaeth fewnol, Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol a sylwadau’r archwilwyr allanol yn eu llythyr ar reolaeth a’u hadroddiadau eraill.
Cefais gyngor ynghylch goblygiadau canlyniad fy adolygiad o effeithiolrwydd y system rheolaeth fewnol gan fy Nghyfarwyddwyr a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, ac mae cynllun ar y gweill i fynd i’r afael â gwendidau ac i sicrhau bod y system yn gwella’n barhaus.
Rhoddodd adroddiadau archwilio mewnol wedi rhoi digon o sicrwydd o ran y prosesu rheoli cyffredinol, ac ymatebwyd yn briodol i argymhellion yr adroddiadau archwilio mewnol hynny. Paratowyd adroddiadau archwilio mewnol ar reoli risg, llywodraethu corfforaethol, taliadau i gredydwyr, caffael, diogelwch data, y prif ddulliau rheoli cyllid, rheoli asedau TG ac adroddiadau dilynol ar ôl archwiliadau blaenorol. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau y ceir y budd mwyaf a gwerth ychwanegol o’r broses archwilio fewnol, mae angen gwneud llawer o welliannau, gan gynnwys dadansoddi’n ddyfnach fel bod adroddiadau yn rhoi mwy o fanylion na dim ond edrych ar y prif ddulliau rheoli. Dylid cyflwyno’r adroddiadau mewn cyfnodau byrrach hefyd. Mae’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi rhoi sylw i’r materion hyn, ac mae’r trefniadau archwilio mewnol ar gyfer 2009/10 yn cael eu hadolygu. Mae Strategaeth Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Llythyr Rheoli interim ar gyfer 2008-09 yn adlewyrchu’r risgiau a oedd yn wynebu’r Comisiwn wrth iddo lunio’i gyfrifon ar gyfer 2008-09, ac mae hynny’n cynnwys gwaith a wnaed i roi’r Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol ar waith yn 2009/10.
Roedd proses hunan-adolygu yn ganolog i’n hadolygiad o effeithiolrwydd, ac fe’i cwblhawyd rhwng mis Rhagfyr 2008 a mis Mawrth 2008. Roedd y broses hon yn cynnwys y fframweithiau llywodraethu corfforaethol a chynllunio corfforaethol, trefniadau arweinyddiaeth a rheoli busnes, ac ymwybyddiaeth o’r cyd-destun rheoli a chyfrannu ato. Cefais Ddatganiad Sicrwydd Dros Dro gan y Cyfarwyddwyr ar gyfer eu meysydd cyfrifoldeb eu hunain, ynghyd â Datganiad Sicrwydd terfynol ar ddiwedd y flwyddyn.
Canfuwyd bod angen cymryd nifer o gamau yn dilyn ein hadolygiad y llynedd, a gwnaed cynnydd da gyda’r rhain dros y flwyddyn fel a ganlyn:
· Mae’r gwaith ar ddatblygu Cynllun Parhad Busnes wedi mynd rhagddo, ac mae tîm bychan o staff wedi cyfrannu at gynllun ymarfer ar gyfer gadael Bae Caerdydd mewn argyfwng, a nodwyd camau allweddol y mae angen eu cymryd er mwyn bwrw ymlaen â’r cynllun a’i brofi. Yr wyf yn fodlon gyda’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn, er bod y gwaith yn dal i fynd rhagddo.
· Mae tudalen hafan newydd wedi cael ei datblygu ar gyfer y fewnrwyd ac mae honno bellach yn cyflwyno’n well i staff pwy ydym, yr hyn yr ydym yn ei wneud, a’n trefniadau llywodraethu. Mae cyfres o sesiynau hyfforddi byr wedi cael ei sefydlu er mwyn gwneud y polisïau hyn yn fwy ystyrlon, a bwriedir sefydlu rhaglen cyfathrebu mewnol er mwyn gwella ymwybyddiaeth y staff.
· Mae rhagor o waith wedi’i wneud i ddatblygu diwylliant sy’n ymwybodol o risg ac i sefydlu’r broses honno.
Edrych tua’r dyfodol
Mae adolygiad eleni wedi nodi’r meysydd a ganlyn lle gellid cryfhau a gwella:
· Datblygu arbenigedd archwilio mewnol yn y sefydliad ei hun er mwyn sicrhau y ceir y budd mwyaf a gwerth ychwanegol o’r broses archwilio mewnol.
· Datblygu trefniadau ymhellach a’u hintegreiddio o dan y Fframwaith Polisi Diogelwch.
· Datblygu rhagor o arbenigedd ynghylch rheoli prosiectau.
· Prosesu a chyflwyno gwybodaeth am lwfansau’n effeithlon.
· Cynnal mwy o sesiynau i godi ymwybyddiaeth a gwneud polisïau llywodraethu yn fwy ystyrlon, a chryfhau cyfathrebu mewnol er mwyn gwella ymwybyddiaeth staff.
· Datblygu sgiliau staff mewn rheoli cyllid yn ddiogel.
· Datblygu Rhaglen Newid Busnes gan flaenoriaethu prosiectau newydd drwy ddangos sut y byddant yn gwella gwasanaethau i’r cyhoedd (gan gynnwys rhoi rhagor o ystyriaeth i sut y dylid datblygu’r gwasanaeth TGCh, fel darparu un rhwydwaith sengl ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a staff y Cynulliad).
Bydd blwyddyn ariannol 2009/10 yn arbennig o heriol am sawl rheswm. Yn sgil yr anawsterau economaidd cyffredinol, dewisodd y Comisiwn gyfyngu ar lefel y cynnydd yn ei gyllideb gan ymrwymo i ddarparu gwerth am arian ac effeithlonrwydd. Ar yr un pryd, rhaid i ni barhau i ddarparu’r un safonau a gwasanaethau i’r Cynulliad a’i Aelodau, tra bo’n debygol y bydd y baich gwaith yn cynyddu. At hynny, bydd angen ariannu nifer o brosiectau uchelgeisiol, gan gynnwys datblygu’r Pierhead. Bydd angen i ni ymateb i adroddiad y Panel Annibynnol ar y cymorth ariannol sydd ar gael i Aelodau’r Cynulliad. Bydd angen i ni baratoi at y cyfnod sy’n arwain hyd sefydlu’r pedwerydd Cynulliad yn 2011, ac wedi hynny, pan fydd y Cynulliad yn cael ei ddiddymu am y tro cyntaf o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r holl heriau hyn yn golygu ei bod yn fwy hanfodol bod gennym drefniadau cryf ar gyfer rheoli risg, rheoli cyllid a llywodraethu, a bod y trefniadau hynny’n gweithio’n effeithiol. Yn y tymor hwy, er mwyn cyflawni’n llwyddiannus yn y dyfodol, bydd angen parhau i gael cydbwysedd addas rhwng y gwahanol heriau sy’n ein hwynebu, yr adnoddau sydd ar gael i ni, a’r effeithlonrwydd cynyddol sy’n angenrheidiol.
I grynhoi, rwy’n fodlon ein bod wedi ymdrin â’r gwendidau a amlygwyd drwy’r broses adolygu, neu’n bod wrthi’n ymdrin â nhw, a bod y system rheolaeth fewnol wedi datblygu’n effeithiol wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi.
Claire Clancy |
Dyddiad: 9 Gorffennaf 2009 |
TYSTYSGRIF AC ADRODDIAD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU I GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
Ardystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Comisiwn) am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009 o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r rhain yn cynnwys Datganiad Cyflenwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Datganiad Costau Gweithredu a Datganiad Enillion a Cholledion Cydnabyddedig, y Fantolen, y Datganiad Llif Arian a’r Datganiad Costau Gweithredu yn ôl Nodau ac Amcanion a’r nodiadau cysylltiedig. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Yr wyf hefyd wedi archwilio’r wybodaeth yn yr Adroddiad Taliadau y nodir ei bod wedi’i harchwilio yn yr adroddiad hwnnw.
Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu’n gyfrifol am baratoi’r Adroddiad Blynyddol, sy’n cynnwys yr Adroddiad Taliadau a’r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a chyfarwyddyd Trysorlys Ei Mawrhydi a wnaed o dan y ddeddf honno, ac am sicrhau rheoleidd-dra’r trafodion ariannol. Nodir y cyfrifoldebau yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu.
Fy nghyfrifoldeb i yw archwilio’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio’n unol â’r gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol, ac â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol ( y DU ac Iwerddon).
Byddaf yn datgan a wyf o’r farn bod y datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg, ac a yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio wedi’u paratoi’n unol â chyfarwyddyd Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nodaf a yw’r wybodaeth sy’n cynnwys y Sylwadaeth Rheoli a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol, yn gyson, yn fy marn i, â’r datganiadau ariannol. Nodaf hefyd a yw’r gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymhob ffordd berthnasol ac a yw’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.
Nodaf hefyd os nad yw’r Comisiwn, yn fy marn i, wedi cadw cofnodion cyfrifyddu cywir, os nad wyf wedi cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad neu os nad yw’r wybodaeth a nodwyd gan Drysorlys EM o ran taliadau a thrafodion eraill wedi’i datgelu.
Adolygaf a yw’r Datganiad am Reolaeth Fewnol yn dangos bod y Comisiwn yn cydymffurfio â chyfarwyddyd Trysorlys EM, ac os nad ydyw, byddaf yn nodi hynny. Nid yw’n ofynnol i mi ystyried a yw’r datganiad hwn yn cwmpasu’r holl risgiau a rheolaethau, nac i lunio barn ar effeithiolrwydd gweithdrefnau llywodraethu corfforaethol Comisiwn y Cynulliad na’i weithdrefnau risg a rheoli.
Darllenaf weddill y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol gan ystyried a yw’n gyson â’r datganiadau ariannol archwiliedig. Ystyriaf y goblygiadau i’m tystysgrif os dof yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau amlwg neu anghysondebau perthnasol â’r datganiadau ariannol. Nid yw fy nghyfrifoldebau’n ymestyn i unrhyw wybodaeth arall.
Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Archwilio Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon) a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae fy archwiliad yn cynnwys ystyried, ar sail prawf, dystiolaeth sy’n berthnasol i’r symiau, y datgeliadau a rheoleidd-dra’r trafodion ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio. Mae hefyd yn cynnwys asesiad o’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau arwyddocaol a wnaed gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu wrth baratoi’r datganiadau ariannol, ac ai’r polisïau cyfrifyddu hynny yw’r rhai mwyaf priodol i amgylchiadau’r Comisiwn, ac a ydynt wedi’u cymhwyso’n gyson a’u datgelu’n ddigonol.
Cynlluniais a chynhaliais fy archwiliad er mwyn cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau a oedd yn angenrheidiol, yn fy marn i, er mwyn rhoi tystiolaeth ddigonol i mi allu rhoi sicrwydd rhesymol nad oes camddatganiad perthnasol yn y datganiadau cyfrifyddu a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio, boed hynny drwy dwyll neu wall, a bod y gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymhob ffordd berthnasol a bod y trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli. Wrth lunio fy marn yr wyf hefyd wedi ystyried a yw’r wybodaeth yn y datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio, yn gyffredinol, wedi’u cyflwyno’n ddigonol.
Yn fy marn i:
· mae’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun cywir a theg, yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r gyfarwyddiaeth a wnaed o dan y Ddeddf honno gan Drysorlys EM, o sefyllfa Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 31 Mawrth 2009, a’r gofyniad arian parod net, yr alldro adnoddau net, y costau gweithredu net, y costau gweithredu a gymhwyswyd i’r amcanion, yr enillion a’r colledion cydnabyddedig a’r llifau arian parod am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
· mae’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r Adroddiad Taliadau i’w harchwilio wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwydd Trysorlys EM a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; ac
· mae’r wybodaeth sy’n cynnwys y Sylwadaeth Rheoli, yn gyson â’r datganiadau ariannol.
Barn ar Reoleidd-dra
Yn fy marn i, ym mhob ffordd berthnasol, mae’r gwariant a’r incwm wedi’u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae’r trafodion ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu rheoli.
Adroddiad
Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.
Jeremy Colman
Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ
14 Gorffennaf 2009
DATGANIAD CYFLENWAD CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU
a) Crynodeb o’r Alldro 2008–09
|
|
2008-09£’000 |
2007-08£’000 Alldro |
||||||
|
|
Cyllideb |
Alldro |
Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r gyllideb: arbedion / (gwariant ychwanegol) |
Cyfan-swm net |
||||
|
Nodyn |
Gwariant gros |
Incwm |
Cyfanswm net |
Gwariant gros |
Incwm wedi’i gym-hwyso |
Cyfan-swm net |
||
Refeniw |
2 |
44,791 |
(160) |
44,631 |
43,857 |
(107) |
43,750 |
881 |
(280) |
Cyfalaf |
2 |
1,550 |
- |
1,550 |
260 |
- |
260 |
1,290 |
944 |
Cyfanswm |
|
46,341 |
(160) |
46,181 |
44,117 |
(107) |
44,010 |
2,171 |
664 |
Ceir eglurhad o’r gwahaniaeth rhwng y gyllideb a’r alldro yn nodyn 2.
b) Gofyniad arian parod net 2008-09
|
|
|
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
|
Nodyn |
Amcangyfrif |
Alldro |
Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r gyllideb: arbedion/ (gwariant ychwanegol) |
Alldro |
Gofyniad arian parod net |
4 |
40,757 |
38,024 |
2,733 |
2,915 |
c) Crynodeb o incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru
Yn ogystal ag incwm y gellir ei gadw, mae incwm a ganlyn Comisiwn y Cynulliad yn daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru
|
Nodyn |
Rhagolwg 2008-09£’000 |
Alldro 2008-09£’000 |
Alldro 2007-08£’000 |
Cyfanswm |
5 |
- |
16 |
35 |
|
|
DATGANIAD COSTAU GWEITHREDU
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009
|
|
|
2008-09 |
|
2007-08 |
|
|
Nodyn |
|
£’000 |
|
£’000 |
|
Costau gweinyddol |
|
|
|
|||
|
|
|
|
|||
Costau cyflogau’r Aelodau, deiliaid swyddi a staff |
6a |
|
18,124 |
|
16,521 |
|
Costau eraill yr Aelodau |
6b |
|
7,072 |
|
6,600 |
|
Costau gweinyddol eraill |
7 |
|
19,296 |
|
18,565 |
|
|
|
|
|
|||
Costau Gweinyddol Gros |
|
|
44,492 |
|
41,686 |
|
|
|
|
|
|||
Incwm gweithredu |
5 |
|
(123) |
|
(186) |
|
|
|
|
|
|
||
Costau gweithredu net |
|
|
44,369 |
|
41,500 |
|
Mae’r holl weithgareddau’n parhau |
|
|
|
|||
|
|
|
|
|||
DATGANIAD ENILLION A CHOLLEDION CYDNABYDDEDIG
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009
|
Nodyn |
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Colledion net wrth ailbrisio asedau sefydlog |
16b |
|
- |
(2,580) |
Enillion /(colledion) actiwaraidd ar Gynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad |
6a |
|
(370) |
1,714 |
Colledion cydnabyddedig ar gyfer y flwyddyn ariannol |
|
|
(370) |
(866) |
MANTOLEN Ar 31 Mawrth 2009
|
|
|
31 Mawrth 2009 |
|
31 Mawrth 2008 |
||
|
|
Nodyn |
£’000 |
£’000 |
|
£’000 |
£’000 |
Asedau sefydlog |
|
|
|
|
|
|
|
Eiddo, cyfarpar ac offer |
8 |
68,594 |
|
|
69,966 |
|
|
Asedau anniriaethol |
9 |
103 |
|
|
138 |
|
|
Cyfanswm yr asedau sefydlog |
|
|
68,697 |
|
|
70,104 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau cyfredol |
|
|
|
|
|
|
|
Stoc |
10 |
27 |
|
|
34 |
|
|
Symiau i’w derbyn |
11 |
1,187 |
|
|
956 |
|
|
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb |
12 |
1,233 |
|
|
2,915 |
|
|
Cyfanswm yr asedau cyfredol |
|
|
2,447 |
|
|
3,905 |
|
Cyfanswm yr asedau |
|
|
71,144 |
|
|
74,009 |
|
|
|
|
|
|
|||
Rhwymedigaethau cyfredol |
13 |
(5,669) |
|
|
(5,416) |
|
|
Symiau i’w talu |
|||||||
|
|
|
|
|
|
|
|
Cyfanswm y rhwymedigaethau cyfredol |
|
|
(5,669) |
|
|
(5,416) |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau sefydlog ac asedau cyfredol net/(rhwymedigaethau) |
|
|
65,475 |
|
|
68,593 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Rhwymedigaethau sefydlog |
|
|
- |
|
|
- |
|
Darpariaethau |
14 |
(1,984) |
|
|
(1,310) |
|
|
Cyfanswm y rhwymedigaethau sefydlog |
|
|
(1,984) |
|
|
(1,310) |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Asedau llai rhwymedigaethau |
|
|
63,491 |
|
67,283 |
||
|
|
|
|
|
|
|
|
Ecwiti Trethdalwyr |
|
|
|
|
|
|
|
Y gronfa gyffredinol |
15 |
|
61,551 |
|
|
64,686 |
|
Y gronfa bensiwn |
16a |
|
(1,967) |
|
|
(1,310) |
|
Y gronfa ailbrisio |
16b |
|
3,896 |
|
|
3,896 |
|
Y gronfa asedau a gafwyd yn rhodd |
16c |
|
11 |
|
|
11 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
63,491 |
|
|
67,283 |
Claire Clancy |
Dyddiad: 9 Gorffennaf 2009 |
DATGANIAD LLIF ARIAN
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009
|
Nodyn |
2008-09£’000 |
2007-08 £’000 |
|
|
|
|
All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu |
17a |
(38,386) |
(33,902) |
All-lif arian parod net o weithgareddau buddsoddi |
17b |
(260) |
(156) |
Taliadau i Gronfa Gyfunol Cymru |
|
(18) |
(33) |
Cyllido |
17c |
36,982 |
37,006 |
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn ystod y cyfnod |
17d |
(1,682) |
2,915 |
DATGANIAD COSTAU GWEITHREDU YN ÔL NODAU AC AMCANION
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009
|
|
|
2008-09 £’000 |
|
Gros |
Incwm |
Net |
Nod |
|
|
|
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, i ddeddfu ar gyfer Cymru ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae’r Cynulliad yn ceisio bod yn gorff seneddol hygyrch ac effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru.Amcanion |
|
|
|
Hyrwyddo datganoli ac annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses. |
5,507 |
(31) |
5,476 |
Dangos undod ac arweiniad ac ymateb yn feiddgar i newidiadau cyfansoddiadol |
3,394 |
- |
3,394 |
Dangos parch, cywirdeb a llywodraethu da |
8,579 |
- |
8,579 |
Gweithio’n gynaliadwy |
4,895 |
- |
4,895 |
Gofalu bod gan y Cynulliad y gwasanaeth gorau, a gaiff ei ddarparu yn y ffordd fwyaf effeithiol |
9,418 |
(76) |
9,342 |
Is-gyfanswm y costau gweithredu net |
31,793 |
(107) |
31,686 |
Cyflogau a lwfansau’r Aelodau a chostau cysylltiedig |
12,324 |
- |
12,324 |
Gweler nodyn 3: Cysoni’r alldro adnoddau â’r costau gweithredu net |
375 |
(16) |
359 |
Costau gweithredu net |
44,492 |
(123) |
44,369 |
Sefydlwyd pum nod strategol y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2008-09, ac felly nid oeddent yn bodoli drwy gydol yr holl flwyddyn ariannol flaenorol. Oherwydd hynny, ni ddyrannwyd y costau gweithredu a’r incwm yn ôl y nodau strategol yn ôl-weithredol.
NODIADAU Â’R CYFRIFON ADNODDAU
1. Datganiad am y polisïau cyfrifyddu
Paratowyd y datganiadau ariannol hyn yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2008-09 a addaswyd ar gyfer cyfansoddiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Comisiwn fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r polisïau cyfrifyddu a gynhwysir yn y Llawlyfr yn dilyn arferion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y DU ar gyfer cwmnïau i’r graddau y mae hynny’n ystyrlon ac yn briodol i’r sector cyhoeddus.
Lle bo’r Llawlyfr Adroddiadau Ariannol yn caniatáu dewis polisi cyfrifyddu, dewiswyd y polisi cyfrifyddu mwyaf priodol o ran amgylchiadau penodol y Comisiwn er mwyn rhoi darlun cywir a theg. Cafodd polisïau cyfrifyddu’r Comisiwn eu cymhwyso’n gyson wrth ddelio ag eitemau yr ystyriwyd eu bod yn berthnasol i’r cyfrifon.
1.1 Confensiwn cyfrifyddu
Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol a addaswyd i ystyried asedau sefydlog a ail-brisiwyd.
1.2 Asedau sefydlog diriaethol
Y lefel sylfaenol ar gyfer cyfalafu ased sefydlog diriaethol yw £5,000 gan gynnwys TAW na ellir ei adennill. Y trothwy TG yw pan fydd gwerth cyfunol asedau cysylltiedig a brynwyd yn fwy na £5,000. Comisiwn y Cynulliad sy’n dal teitl pob eiddo. Caiff tir ac adeiladau eu hailddatgan yn ôl eu cost gyfredol ar sail prisiadau a wnaed gan briswyr proffesiynol bob pum mlynedd o leiaf. Ni chaiff asedau diriaethol eraill eu hailbrisio gan na fyddai’r symiau dan sylw, ym marn y Comisiwn, yn arwyddocaol.
1.3 Asedau sefydlog anniriaethol
Caiff trwyddedau meddalwedd eu cyfalafu fel asedau sefydlog anniriaethol a’u hamorteiddio ar sail llinell syth dros oes ddisgwyliedig yr ased (3 neu 5 mlynedd).
1.4 Asedau a gafwyd yn rhodd
Caiff asedau a gafwyd yn rhodd eu cyfalafu ar sail eu gwerth presennol ac fel arfer cânt eu hailbrisio yn yr un modd fel asedau a brynwyd. Mae gwerth asedau a gafwyd yn rhodd yn cael ei adlewyrchu yn y gronfa asedau a gafwyd yn rhodd, a gredydir â gwerth y rhodd wreiddiol a’r ailbrisiadau dilynol.
1.5 Dibrisiant
Nid yw tir rhydd-ddaliadol, dogfennau neu gofnodion hanesyddol na gwaith celf yn cael eu dibrisio. Cyfrifir dibrisiad ar gyfradd a fydd yn dileu prisiad adeiladau ac asedau sefydlog diriaethol drwy randaliadau cyfartal dros gyfnod eu hoes ddefnyddiol ddisgwyliedig. Ni fydd asedau’n cael eu dibrisio yn y flwyddyn y cânt eu caffael. Isod, rhestrir oes arferol asedau:
Adeiladau: |
50 mlynedd neu gyfnod arall a bennir gan brisiwr cymwysedig. |
Offer sefydlog: |
10 mlynedd, neu gyfnod arall a bennir gan y cyflenwr pan gaiff ei brynu neu ei brisio. |
Cyfarpar yn ymwneud â TGCh: |
3 blynedd |
Darnau gosod, gosodiadau a chyfarpar swyddfa: |
5 mlynedd |
Asedau anniriaethol (meddalwedd): |
3 - 5 mlynedd |
Cerbydau |
4 blynedd |
Asedau a gafwyd yn rhodd: |
I’w hasesu ar ôl eu derbyn |
1.6 Yr elfen a wireddwyd o’r gronfa ailbrisio
Mae cost dibrisiant yn cael ei gynnwys yn swm yr asedau a ail-brisiwyd. Gall elfen o’r dibrisiant godi felly oherwydd cynnydd yn y prisiad a byddai’n fwy na’r dibrisiant a fyddai’n cael ei gynnwys yng nghost hanesyddol yr asedau. Byddai’r swm dan sylw’n elw heb ei wireddu ar y prisiant, a chaiff ei drosglwyddo o’r Gronfa Ailbrisio i’r Gronfa Gyffredinol, os yw’n berthnasol.
1.7 Datganiad Costau Gweithredu
Mae incwm a chostau gweithredu’n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau gweithredu’r Comisiwn. Mae incwm yn cynnwys costau nwyddau a gwasanaethau yn seiliedig ar y gost lawn i gwsmeriaid allanol. Dangosir incwm a chostau heb gynnwys TAW os gellir ei adennill.
1.8 Tâl cyfalaf
Mae tâl, yn adlewyrchu cost cyfalaf a ddefnyddir gan y Comisiwn, wedi’i gynnwys yn y costau gweithredu. Cyfrifir y tâl yn ôl cyfradd safonol y Llywodraeth, sef 3.5% ar yr asedau net perthnasol cyfartalog. Caiff asedau net perthnasol eu diffinio fel yr holl asedau llai rhwymedigaethau ac eithrio asedau a gafwyd fel rhodd a balansau arian parod gyda Swyddfa’r Tâl-feistr Cyffredinol. Cyfrifir y cyfartaledd drwy adio’r balans ar ddiwedd y flwyddyn hon a’r balans ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol a rhannu â dau.
1.9 Stoc
Nodir y stoc, gan gynnwys nwyddau i’w hailwerthu, ar lefel isaf y gost a’r pris gwerthadwy net.
1.10 Cyfnewid Tramor
Trosir trafodion mewn arian cyfred tramor yn sterling ar y cyfraddau cyfnewid sydd mewn grym ar ddyddiad y trafodion dan sylw. Trosir imprestau cyfred tramor yn sterling ar y cyfraddau cyfnewid sydd mewn grym ar y pryd.
1.11 Pensiynau
Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPCP) - Mae staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y Comisiwn a staff ar secondiad i weithio i’r Comisiwn yn gymwys i fod yn aelod o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir yw hwn ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk) sy’n cydymffurfio â Safon Adrodd Ariannol 17.
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad (AMPS) - Sefydlwyd cynllun pensiwn i Aelodau’r Cynulliad yn wreiddiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac mae’n parhau mewn grym o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Cynllun buddion diffiniedig ydyw, ac mae’n gymwys i gyflogau aelodau a chyflog deiliaid swyddi. Telir cost pensiynau Aelodau’r Cynulliad drwy gyfrwng taliadau a gyfrifir ar sail gronnus gydag atebolrwydd i dalu buddion yn y dyfodol o gyfrifon yr AMPS. Bydd unrhyw ddyledion yn y gronfa sy’n codi oherwydd ddiffyg o ran asedau, yn cael eu talu drwy gynyddu’r swm y mae’r Comisiwn yn ei dalu. Wrth gyflwyno adroddiad am asedau a rhwymedigaethau’r Cynllun, mae’r Comisiwn wedi dilyn cyngor y Bwrdd Safonau Cyfrifyddu gan ddatgelu y mabwysiadwyd Safon Adrodd Ariannol Diwygiedig 17 yn gynnar. Mae’r AMPS yn paratoi ei Gyfrifon Blynyddol ei hun, ar wahân i Gyfrifon y Comisiwn, ac mae’r rhain i’w gweld ar wefan y Cynulliad, www.cynulliadcymru.org.
1.12 Cost Prydles Gweithredu
Caiff rhent sy’n daladwy o dan brydlesi gweithredu eu cynnwys yn y datganiad costau gweithredu dros gyfnod y prydlesi.
1.13 Treth ar Werth
Caiff y Comisiwn ei drin fel Corff y Goron at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994 a, chan hynny, at ddibenion Adran 41 o’r Ddeddf honno (cymhwyso i’r Goron) caiff ei drin fel un o adrannau’r llywodraeth, ac mae wedi’i eithrio rhag TAW yng nghyswllt nwyddau a gwasanaethau’r Cynulliad. Codir TAW ar y Comisiwn ar y gyfradd safonol yng nghyswllt ei weithgareddau masnachol, fel siop y Cynulliad.
2. Dadansoddiad o’r alldro adnoddau net 2008-09
|
Alldro £’000 |
Dadansoddi’r gyllideb a gymeradw-ywyd £’000 |
Alldro o’i gymharu â’r gyllideb wreiddiol £’000 |
Dadansoddi’r gyllideb ddiwyg-iedig £’000 |
Alldro o’i gymharu â’r gyllideb ddiwyg-iedig £’000 |
Alldro 2007-08 £’000 |
Gwariant Refeniw |
|
|
|
|
|
|
a Cyflogau a lwfansau’r Aelodau a chostau cysylltiedig |
12,369 |
13,676 |
1,307 |
13,194 |
825 |
12,015 |
b Cyflogau staff a chostau cysylltiedig |
12,193 |
12,659 |
466 |
12,200 |
7 |
10,512 |
e Costau teithio a chynhaliaeth staff |
158 |
218 |
60 |
164 |
6 |
140 |
e Costau recriwtio/costau eraill yn ymwneud ag Adnoddau Dynol |
283 |
159 |
(124) |
229 |
(54) |
172 |
c Costau TGCh |
4,017 |
3,373 |
(644) |
4,119 |
102 |
3,568 |
d Costau adeiladau a chyfleusterau |
8,349 |
6,764 |
(1,585) |
8,241 |
(108) |
7,721 |
e Costau hyfforddi a datblygu |
270 |
241 |
(29) |
287 |
17 |
217 |
e Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth |
548 |
551 |
3 |
581 |
33 |
447 |
e Costau gweinyddol eraill |
1,698 |
2,375 |
677 |
2,173 |
475 |
2,464 |
f Dibrisiant a thaliadau llog tybiannol |
3,972 |
4,775 |
803 |
4,775 |
803 |
3,836 |
Gwariant Refeniw Gros |
43,857 |
44,791 |
934 |
45,963 |
2,106 |
41,092 |
Incwm Refeniw |
|
|
|
|
|
|
e Gwerthiant – Siop y Cynulliad |
(31) |
(31) |
0 |
(40) |
(9) |
(36) |
d Incwm rhentu eiddo |
(76) |
(104) |
(28) |
(107) |
(31) |
(114) |
e Incwm amrywiol |
_
|
(25) |
(25) |
_
|
_
|
(1) |
Incwm Refeniw Gros |
(107) |
(160) |
(53) |
(147) |
(40) |
(151) |
GWARIANT REFENIW NET |
43,750 |
44,631 |
881 |
45,816 |
2,066 |
40,941 |
|
|
|
|
|
|
|
GWARIANT CYFALAF – CREU ASEDAU SEFYDLOG |
260 |
1,550 |
1,290 |
365 |
105 |
156 |
|
|
|
|
|
|
|
ALLDRO ADNODDAU NET |
44,010 |
46,181 |
2,171 |
46,181 |
2,171 |
41,097 |
|
|
|
|
|
|
|
Roedd yr alldro adnoddau net ar gyfer 2008-09 o fewn 4.7% i’r gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer y flwyddyn (1.6% yn 2007-08).
Mae’r eglurhad dros y gwahaniaethau arwyddocaol rhwng y gyllideb a’r alldro fel a ganlyn:
a Cyflogau, lwfansau a chostau cysylltiedig: y prif resymau dros y gwarged yw bod cyflogau Aelodau wedi cynyddu llai na’r disgwyl, bod costau teithio a chynhaliaeth yn llai na’r disgwyl a bod costau’n gysylltiedig â swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad yn llai na’r disgwyl. Mae’r rhain i gyd yn gyllidebau sy’n dibynnu ar y galw.
b Cyflogau staff a chostau cysylltiedig: cafwyd gwarged gan nad oedd staff yn eu swyddi yn ystod y flwyddyn am y cyfnodau a ddisgwyliwyd pan bennwyd y gyllideb.
c Costau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu: y rheswm dros y diffyg yw’r datblygiadau TGCh ychwanegol a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn er mwyn manteisio ar danwariant mewn meysydd eraill.
d Costau adeiladau a chyfleusterau: y rheswm dros y diffyg yw’r cywiriad yn y modd y caiff prosiectau eu categoreiddio, a’r newid o wariant cyfalaf i refeniw. Hefyd, cynlluniwyd prosiectau er mwyn manteisio ar danwariant mewn meysydd eraill.
e Costau gweinyddol eraill: cafwyd gwarged o ganlyniad i lai o ddibyniaeth na’r disgwyl ar y cronfeydd wrth gefn heb eu neilltuo.
f Dibrisiant a thaliadau llog tybiannol:y rheswm dros y gwarged yw’r ffaith bod gwir gost dibrisiant ar gyfer y flwyddyn yn is na’r hyn a nodwyd yn y gyllideb, oherwydd goramcangyfrif y dibrisiant yn y gyllideb o ganlyniad i ostyngiad mewn gwerth asedau ar ôl eu hailbrisio mewn blynyddoedd blaenorol.
g Gwariant cyfalaf: fel y nodwyd uchod, y rheswm dros y gwarged yw’r cywiriad yn y modd y caiff prosiectau eu categoreiddio, a’r newid o wariant cyfalaf i refeniw. Caiff ei wrthbwyso gan ddiffyg yn erbyn costau adeiladau a chyfleusterau.
3. Cysoni’r alldro adnoddau â’r costau gweithredu net
|
Nodyn |
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Alldro Adnoddau Net |
2 |
44,010 |
41,097 |
Gwariant cyfalaf |
8 a 9 |
(260) |
(156) |
Incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru |
5 |
(16) |
(35) |
Taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru |
|
635 |
594 |
Costau gweithredu net |
|
44,369 |
41,500 |
Mae’r taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru (£635,000) ar gyfer costau cyflog y Llywydd, y Dirprwy Lywydd, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Y Comisiwn sy’n talu’r cyflogau hyn, ond gan eu bod yn cael eu talu’n uniongyrchol o’r Gronfa, nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr alldro adnoddau net.
4. Cysoni’r gofyniad adnoddau net â’r gofyniad arian parod
|
Nodyn |
Cyllideb£’000 |
Alldro£’000 |
Cyfanswm alldro net o’i gymharu â’r gyllideb: arbedion/ (ychwanegol) £’000 |
Alldro 2007-08 £’000 |
Alldro adnoddau |
2 |
46,181 |
44,010 |
2,171 |
41,097 |
Addasiadau i groniadau |
|
|
|
|
|
Eitemau heb fod yn arian parod |
Gweler isod |
(5,339) |
(4,275) |
(1,064) |
(5,424) |
Newidiadau mewn cyfalaf gweithio ar wahân i arian parod |
|
(85) |
(1,711) |
1,626 |
(2,171) |
Gofyniad arian parod net |
|
40,757 |
38,024 |
2,733 |
33,502 |
Eitemau heb fod yn arian parod |
Nodyn |
Cyllideb£’000 |
Alldro£’000 |
Alldro o’i gymharu â’r gyllideb 2008-09 £’000 |
Alldro 2007-08 £’000 |
Dibrisiant ac amorteiddiad |
8 a 9 |
(2,030) |
(1,667) |
(363) |
(1,577) |
Addasiadau gwerth teg mewn asedau sefydlog |
8 |
- |
- |
- |
(944) |
Cost Taliadau Cyfalaf |
7 |
(2,745) |
(2,304) |
(441) |
(2,465) |
Cost Cyllid Pensiwn Safon Adrodd Ariannol 17 a newid mewn darpariaethau eraill |
|
(564) |
(304) |
(260) |
(438) |
|
|
(5,339) |
(4,275) |
(1,064) |
(5,424) |
5. Dadansoddiad o’r incwm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru
|
|
Rhagolwg 2008-09 £’000 |
Alldro 2008-09 £’000 |
Alldro 2007-08 £’000 |
|
|
|
|
|
Incwm gweithredu y gellir ei gadw |
|
160 |
107 |
153 |
Incwm gweithredu na ellir ei gadw (llog banc) |
|
- |
16 |
33 |
|
|
160 |
123 |
186 |
Swm yr awdurdodwyd i’w gadw |
|
(160) |
(107) |
(151) |
Swm sy’n daladwy i Gronfa Gyfunol Cymru |
|
- |
16 |
35 |
6a. Nifer yr Aelodau a’r staff a chostau cysylltiedig
Costau staff:
|
|
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
||
|
|
|
Staff |
Aelodau a Deiliaid swyddi |
Cyfanswm |
Cyfanswm |
Cyflogau |
|
|
|
|
|
|
|
Staff, Aelodau a Deiliaid Swyddi |
9,301 |
4,240 |
13,541 |
12,536 |
|
|
Staff ar secondiad |
|
350 |
|
350 |
132 |
Costau nawdd cymdeithasol |
|
|
|
|
|
|
|
Staff, Aelodau a Deiliaid Swyddi |
734 |
431 |
1,165 |
1,016 |
|
Costau pensiwn eraill |
|
|
|
|
|
|
|
Staff, Aelodau a Deiliaid Swyddi |
1,808 |
1,260 |
3,068 |
2,837 |
|
Cyfanswm costau cyflogau Aelodau, Deiliaid Swyddi a staff |
12,193 |
5,931 |
18,124 |
16,521 |
Mae’r Comisiwn yn talu cyflogau a chostau cysylltiedig Gweinidogion Cymru, fel yr eglurir yn yr Adroddiad Taliadau yn y cyfrifon hyn. Caiff y symiau a delir i Weinidogion Cymru eu datgelu yng Nghyfrifon Adnoddau Cyfunol Llywodraeth Cymru.
Dyma nifer cyfartalog y cyflogeion sy’n cyfateb i amser llawn a gyflogir gan y Comisiwn yn ystod y flwyddyn (gan gynnwys uwch reolwyr):
|
2008-09 |
2007-08 |
Staff parhaol |
301.2 |
272.9 |
Staff ar secondiad |
5.3 |
6.3 |
Staff dros dro/achlysurol |
13.7 |
13.7 |
Penodiadau tymor penodol |
2.4 |
1.2 |
Cyfanswm |
322.6 |
294.1 |
Mae 60 Aelod Cynulliad. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 10 Deiliad Swydd (ar wahân i Weinidogion), 1 Prif Weinidog, 9 o Weinidogion Cymru, 3 Dirprwy Weinidog, ac 1 Cwnsler Cyffredinol.
Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar aelod etholedig (gweler y Sylwadaeth Rheoli i gael rhagor o fanylion). Y tâl am swydd Comisiynydd oedd £11,372 y flwyddyn ers 1 Ebrill 2008 (nid oedd tâl yn ystod 2007-08). Mae’r holl uwch reolwyr a’r holl staff yn cael eu cyflogi gan y Comisiwn.
Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir ac felly ni all y Comisiwn nodi cyfran yr asedau a'r rhwymedigaethau sylfaenol sy'n berthnasol iddo. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2007. Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa'r Cabinet: Pensiwn Sifil (www.civilservice-pensions.gov.uk).
Yn ystod 2008-09 roedd cyfraniadau’r cyflogwyr, sef £1.808m yn daladwy i’r PCSPS yn ôl un o bedair cyfradd yn yr ystod 17.1% i 25.5% o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog (nad ydynt wedi newid ers cyfraddau 2007-08). Bydd Actiwari’r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob pedair blynedd yn dilyn proses brisio lawn. Adolygwyd y bandiau cyflog a chyfraddau’r cyfraniadau yn 2005-06 ac ni fyddant yn newid tan 2008-09. Pennir cyfraddau’r cyfraniadau i dalu cost y buddion a gronnwyd, yn hytrach na’r buddion a dalwyd, ac maent yn adlewyrchu profiadau’r cynllun yn y gorffennol.
Gall cyflogeion agor cyfrif pensiwn partneriaeth, pensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfaniad gan y cyflogwr. Cyfrannodd y cyflogwyr £21,000 i ddarparwyr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniad y cyflogwr yn dibynnu ar oedran yr aelod ac mae’n amrywio o 7% i 15% o dâl pensiynadwy. Mae cyflogwyr hefyd yn talu swm sy’n cyfateb i gyfraniadau’r cyflogai hyd at 3% o dâl pensiynadwy. Yn ogystal â hyn, roedd cyfraniadau’r cyflogai o £1,000 (0.8%) o dâl pensiynadwy, yn daladwy i’r PCSPC i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw mewn gwasanaeth neu’n ymddeol oherwydd salwch. Pan baratowyd y fantolen, roedd cyfraniadau o £1,000 yn ddyledus i ddarparwyr y pensiwn partneriaeth. Nid oedd unrhyw gyfraniadau wedi’u rhagdalu bryd hynny.
Nid ymddeolodd neb ar sail iechyd yn ystod y flwyddyn, a doedd dim rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn.
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad
Mae cynllun pensiwn Aelodau’r Cynulliad yn darparu buddion yn seiliedig ar dâl pensiynadwy terfynol. Mae asedau’r cynllun yn cael eu cadw ar wahân i asedau Comisiwn y Cynulliad a phenodir Rheolwr Buddsoddiadau i’w rheoli. Cynhaliodd actiwari’r cynllun brisiad llawn o’r cynllun ar 31 Mawrth 2005 ac fe’i diweddarwyd ar 31 Mawrth 2008 gan actiwari annibynnol cymwysedig. Caiff y cynllun ei ariannu.
Y symiau a gydnabuwyd yn y fantolen:
|
31 Mawrth 2009 £’000 |
31 Mawrth 2008 £’000 |
|
|
|
Gwerth presennol rhwymedigaethau’r cynllun |
12,388 |
12,661 |
Gwerth teg asedau’r cynllun |
10,421 |
11,351 |
Rhwymedigaeth net (gwarged) |
1,967 |
1,310 |
|
|
|
Swm yn y fantolen |
|
|
Rhwymedigaethau |
1,967 |
1,310 |
Asedau |
|
- |
Rhwymedigaeth net |
1,967 |
1,310 |
Y symiau a gydnabuwyd yn y costau gweithredu:
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
|
|
|
Cost gyfredol y gwasanaeth |
1,099 |
1,345 |
Cost y llog |
920 |
738 |
Enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun |
(824) |
(811) |
Cyfanswm y gost |
1,195 |
1,272 |
|
|
|
Dyrannwyd yn y cyfrifon fel a ganlyn: |
|
|
Costau pensiwn eraill (cyfraniadau’r Comisiwn) |
908 |
834 |
Cost cyllido’r pensiwn |
287 |
438 |
Cyfanswm y gost |
1,195 |
1,272 |
Y symiau a gydnabuwyd yn y Datganiad Enillion a’r Colledion Cydnabyddedig:
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
|
|
|
Gwir enillion llai enillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun |
(2,922) |
(840) |
Addasiadau profiad ar rwymedigaethau’r cynllun |
100 |
- |
Newidiadau mewn tybiaethau sy’n sail i werth presennol rhwymedigaethau’r cynllun |
2,452 |
2,554 |
Cyfanswm enillion/(colledion) actiwaraidd cydnabyddedig |
(370) |
1,714 |
Newidiadau yng ngwerth presennol rhwymedigaethau’r cynllun:
|
31 Mawrth 2009 £’000 |
31 Mawrth 2008 £’000 |
|
|
|
Rhwymedigaethau agoriadol |
12,661 |
12,859 |
Cost gyfredol y gwasanaeth |
1,099 |
1,345 |
Cost y llog |
920 |
738 |
Cyfraniadau gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys trosglwyddiadau i mewn) |
405 |
440 |
Actiwaraidd (enillion) |
(2,552) |
(2,554) |
Buddion a dalwyd a threuliau |
(145) |
(167) |
Rhwymedigaethau wrth gau’r cyfrifon |
12,388 |
12,661 |
Newidiadau yng ngwerth teg asedau’r cynllun:
|
31 Mawrth 2009 £’000 |
31 Mawrth 2008 £’000 |
|
|
|
Gwerth teg asedau’r cynllun |
11,351 |
10,273 |
Adenillion disgwyliedig ar asedau’r cynllun |
824 |
811 |
Actiwaraidd (colledion) |
(2,922) |
(840) |
Cyfraniadau gan Gomisiwn y Cynulliad |
908 |
834 |
Cyfraniadau gan Aelodau’r Cynulliad (gan gynnwys trosglwyddiadau i mewn) |
405 |
440 |
Buddion a dalwyd a threuliau |
(145) |
(167) |
Gwerth teg asedau’r cynllun wrth gau’r cyfrifon |
10,421 |
11,351 |
Mae’r Comisiwn yn disgwyl cyfrannu £960,000 at Gynllun Pensiwn yr Aelodau yn ystod 2009-10.
Dyma brif gategorïau asedau’r cynllun gan ddangos pa ganran o holl asedau’r cynllun y maent yn ei chynrychioli:
|
2008-09 |
2007-08 |
|
|
|
Ecwitïau |
60% |
72% |
Bondiau |
19% |
14% |
Arian parod |
21% |
14% |
Nid yw asedau’r cynllun yn cynnwys unrhyw eiddo’n uniongyrchol na’n anuniongyrchol. Mae asedau’r cynllun yn cynnwys, yn anuniongyrchol drwy fuddsoddi mewn cronfeydd cyfunol, giltiau a gyhoeddwyd gan lywodraeth y DU a chanddynt werth teg o £1,110,770.
Yr adenillion disgwyliedig ar ecwitïau yw 3% y flwyddyn yn uwch na’r elw ar giltiau ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn. Yr adenillion disgwyliedig ar fondiau yw’r elw adbrynu ar y bondiau y mae’r cynllun yn eu dal (yn uniongyrchol) ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn. Yr adenillion disgwyliedig ar arian parod yw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar ddyddiad cyflwyno’r adroddiad hwn.
Y gwir adenillion ar asedau’r cynllun yn 2008-09 oedd colled o £2.1 miliwn (colled o £29,000 yn 2007-08).
Y prif dybiaethau actiwaraidd ar ddyddiad paratoi’r fantolen:
|
31 Mawrth 2009 |
31 Mawrth 2008 |
|
|
|
Cyfradd gostyngiad |
6.9% |
6.9% |
Cynnydd mewn cyflogau yn y dyfodol |
4.5% |
5.2% |
Cynnydd mewn pensiynau yn y dyfodol |
3.0% |
3.7% |
Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar ecwitïau |
6.7% |
7.5% |
Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar fondiau |
4.5% |
5.5% |
Cyfradd adennill ddisgwyliedig ar arian parod |
0.5% |
5.3% |
Hyd oes ddisgwyliedig ar ôl 65 oed (blynyddoedd) |
|
|
Dynion |
25.6 |
24.6 |
Menywod |
28.6 |
27.6 |
Dyma’r symiau ar gyfer y cyfnod presennol a’r pedwar cyfnod blaenorol:
|
31 Mawrth 2009 £’000 |
31 Mawrth 2008 £’000 |
31 Mawrth 2007 £’000 |
31 Mawrth 2006 £’000 |
|
|
|
|
|
Rhwymedigaeth buddion diffiniedig |
12,388 |
12,661 |
12,859 |
8,951 |
Asedau’r cynllun |
10,421 |
11,351 |
10,273 |
8,984 |
Gwarged/(diffyg) |
(1,927) |
(1,310) |
(2,586) |
33 |
Addasiadau profiad ar rwymedigaethau’r cynllun |
100 |
Nil |
(22) |
Nil |
Addasiadau profiad ar asedau’r cynllun |
(2,922) |
(840) |
(171) |
1,657 |
|
|
|
|
|
Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad ar gael yn adroddiad blynyddol a chyfrifon y cynllun ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2009.
6b. Costau eraill yr Aelodau
Mae costau eraill yr Aelodau, sef £7.072 miliwn, yn y datganiad costau gweithredu yn cynnwys:
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Lwfans Costau Swyddfa |
753 |
768 |
Lwfans Costau Ychwanegol |
415 |
440 |
Lwfans Costau Staff yr Aelodau |
5,615 |
5,122 |
Costau teithio |
289 |
270 |
Cyfanswm costau eraill yr Aelodau |
7,072 |
6,600 |
7. Costau gweinyddol eraill
Mae costau gweinyddol eraill, gwerth £19,296 miliwn, yn y datganiad costau gweithredu’n cynnwys:
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Adeiladau a chyfleusterau |
6,095 |
5,423 |
Rhenti o dan brydlesi gweithredu |
2,255 |
2,299 |
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu |
4,176 |
3,568 |
Hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth |
548 |
447 |
Hyfforddi a datblygu |
393 |
217 |
Costau Adnoddau Dynol/recriwtio eraill |
160 |
172 |
Costau teithio a chynhaliaeth staff |
158 |
140 |
Costau gweinyddol eraill |
1,539 |
1,313 |
Eitemau heb fod yn arian parod |
|
|
Dibrisiant ac amorteiddiad |
1,668 |
1,577 |
Addasiadau gwerth teg mewn asedau sefydlog |
- |
944 |
Cost taliadau cyfalaf |
2,304 |
2,465 |
Cyfanswm y costau gweinyddol eraill |
19,296 |
18,565 |
Y gost y cytunwyd arni ar gyfer archwilio'r datganiadau hyn yn allanol yw £63,475 (£57,950 ar gyfer y gwaith archwilio statudol a £5,525 ar gyfer y gwaith archwilio anstatudol) .
8. Eiddo, cyfarpar ac offer
|
|
|
|
|
2008-09 £’000 |
|
Tir ac Adeiladau |
Technoleg Gwybodaeth |
Dodrefn a Gosodiadau* |
Cerbydau |
Cyfanswm |
Cost neu brisiad |
|
|
|
|
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
65,731 |
7,492 |
883 |
41 |
74,147 |
Ychwanegiadau |
- |
29 |
151 |
80 |
260 |
Gwerthu |
- |
- |
- |
- |
- |
Ailbrisio |
|
- |
- |
- |
|
Ar 31 Mawrth 2009 |
65,731 |
7,521 |
1,034 |
121 |
74,407 |
|
|
|
|
|
|
Dibrisiant |
|
|
|
|
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
2,706 |
1,149 |
294 |
31 |
4,180 |
Costau yn ystod y flwyddyn |
745 |
774 |
104 |
10 |
1,633 |
Gwerthu |
- |
- |
- |
- |
- |
Ailbrisio |
- |
- |
- |
- |
- |
At 31 Mawrth 2009 |
3,451 |
1,923 |
398 |
41 |
5,813 |
Gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2009 |
62,280 |
5,598 |
636 |
80 |
68,594 |
Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2008 |
63,025 |
6,343 |
588 |
10 |
69,966 |
* Mae dodrefn a gosodiadau yn cynnwys ‘asedau a gafwyd yn rhodd’, gan gynnwys y Byrllysg a gyflwynwyd gan Senedd De Cymru Newydd pan agorwyd y Senedd.
Eiddo’r Comisiwn yw’r holl asedau sefydlog diriaethol, ac nid oes unrhyw eiddo’n cael ei brydlesu. Mae asedau tir ac adeiladau’n cynnwys y Senedd a’r Pierhead.
DS Gibbon FRICS o GVA Grimley International Property Advisers a ailbrisiodd y Pierhead, yn ôl ei bris ar sail cost dibrisiant ar 31 Mawrth 2009. Cafodd y Pierhead ei ailbrisio ar gost dibrisiadwy amnewidiol.
9. Asedau sefydlog anniriaethol
Mae asedau sefydlog anniriaethol yn cynnwys trwyddedau meddalwedd ar gyfer rhai o’r prif systemau a ddefnyddir gan y Comisiwn.
|
2009 Cyfanswm £’000 |
2008 Cyfanswm £’000 |
Cost neu brisiad |
|
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
172 |
158 |
Ychwanegiadau |
- |
14 |
Gwerthu |
- |
- |
Ailbrisio |
- |
- |
Ar 31 Mawrth 2009 |
172 |
172 |
Amorteiddiad |
|
|
Ar 1 Ebrill 2008 |
34 |
- |
Costau yn ystod y flwyddyn |
35 |
34 |
Gwerthu |
- |
- |
Ailbrisio |
- |
- |
Ar 31 Mawrth 2009 |
69 |
34 |
Gwerth net ar bapur ar 31 Mawrth 2009 |
103 |
138 |
Gwerth net ar bapur ar 1 Ebrill 2008 |
138 |
158 |
10. Stoc
|
31 Mawrth 2009 |
31 Mawrth 2008 |
|
£’000 |
£’000 |
Stoc ar gyfer Siop y Cynulliad |
27 |
34 |
11. Symiau i’w derbyn gan fasnachwyr
|
31 Mawrth 2009 |
31 Mawrth 2008 |
|
£’000 |
£’000 |
Symiau sy’n ddyledus cyn pen blwyddyn: |
|
|
Dyledwyr masnachol |
- |
28 |
Adneuon a blaendaliadau |
- |
- |
Dyledwyr eraill |
6 |
4 |
Rhagdaliadau ac incwm cronedig |
618 |
563 |
TAW y gellir ei adennill |
563 |
356 |
Symiau sy’n ddyledus o Gronfa Gyfunol Cymru yng nghyswllt taliadau uniongyrchol |
- |
5 |
|
1,187 |
956 |
Nid oedd unrhyw symiau’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn.
12. Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
|
|
|
Balans ar 1 Ebrill |
2,915 |
- |
Newid net mewn balansau arian parod |
(1,682) |
2,915 |
Balans ar 31 Mawrth |
1,233 |
2,915 |
Balansau ar 31 Mawrth sy’n cael eu dal gan: |
|
|
Swyddog Tâl-feistr Cyffredinol EM |
754 |
2,461 |
Banciau masnachol ac arian parod mewn llaw |
479 |
454 |
Balans ar 31 Mawrth |
1,233 |
2,915 |
13. Symiau i’w talu i fasnachwyr a rhwymedigaethau presennol eraill
|
31 Mawrth2009 |
31 Mawrth 2008 |
|
£’000 |
£’000 |
Symiau sy’n ddyledus cyn pen blwyddyn |
|
|
TAW – net gyda balans Nodyn 11 |
2 |
2 |
Trethi eraill a nawdd cymdeithasol |
603 |
588 |
Credydwyr masnachol |
1,901 |
1,401 |
Credydwyr eraill |
22 |
- |
Croniadau ac incwm gohiriedig |
1,908 |
508 |
Symiau’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru |
1,233 |
2,917 |
|
5,669 |
5,416 |
Nid oedd unrhyw symiau’n ddyledus i fasnachwyr ar ôl mwy na blwyddyn.
14. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a thaliadau
O dan Safon Adrodd Ariannol 17, caiff rhwymedigaeth o £1.967 miliwn ei chydnabod ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn nodyn 6. Ceir darpariaeth bellach o £17,000 ar gyfer ad-daliadau i staff ym mis Mawrth 2010 ar ôl newid telerau contractau staff diogelwch.
|
Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad £’000 |
Darpariaeth ar gyfer gwneud ad-daliadau i staff £’000 |
2008-09 Cyfanswm £’000 |
2007-08 Cyfanswm £’000 |
Balans ar 1 Ebrill |
1,310 |
- |
1,310 |
2,586 |
Codiadau yn ystod y flwyddyn |
657 |
17 |
674 |
(1,276) |
Wedi’i ddefnyddio neu ei ryddhau yn ystod y flwyddyn |
- |
- |
- |
- |
Balans ar 31 Mawrth |
1,967 |
17 |
1,984 |
1,310 |
15. Y Gronfa Gyffredinol
Mae’r Gronfa Gyffredinol yn cynrychioli cyfanswm yr asedau llai rhwymedigaethau’r
Comisiwn i’r graddau nad yw’r cyfanswm yn cael ei gynrychioli gan
gronfeydd wrth gefn ac eitemau cyllido eraill.
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Balans ar 1 Ebrill |
64,686 |
69,222 |
Cyllid gan Gronfa Gyfunol Cymru |
39,257 |
36,417 |
Taliadau uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru |
635 |
594 |
Derbyniadau sy’n daladwy i’r Gronfa Gyfunol |
(16) |
(35) |
Symiau sy’n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru ar ddiwedd y flwyddyn - Cyflenwad |
(1,233) |
(2,915) |
Costau Gweithredu Net |
(44,369) |
(41,500) |
Costau heb fod yn arian parod |
2,304 |
2,465 |
Trosglwyddwyd o’r Gronfa Bensiwn wrth gefn |
287 |
438 |
Balans ar 31 Mawrth |
61,551 |
64,686 |
16. Cronfeydd wrth gefn
(a) Y gronfa bensiwn wrth gefn
Mae’r Gronfa Bensiwn wrth gefn yn cynrychioli’r gwahaniaeth rhwng gwerth presennol rhwymedigaethau’r Cynllun ar gyfer costau pensiwn yn y dyfodol, fel yr amcangyfrifwyd hynny gan actiwari’r Cynllun, a gwerth teg presennol asedau’r Cynllun (fel sy’n ofynnol gan FRS 17). Mae’r balans ar 31 Mawrth 2009 yn adlewyrchu’r rhwymedigaethau rhagamcanol sy’n fwy nag asedau’r Cynllun o £1.967 miliwn.
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Balans ar 1 Ebrill |
(1,310) |
(2,586) |
Symudiadau yn ystod y flwyddyn |
(657) |
1,276 |
|
- |
- |
Balans ar 31 Mawrth |
(1,967) |
(1,310) |
(b) Y gronfa ailbrisio
Mae’r gronfa ailbrisio yn adlewyrchu’r elfen heb ei gwireddu ym malans cronnol addasiadau mynegeio ac ailbrisio (ac eithrio asedau a gafwyd yn rhodd).
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Balans ar 1 Ebrill |
3,896 |
6,476 |
Yn codi ar ôl ailbrisio yn ystod y flwyddyn (net) |
- |
(2,580) |
Balans ar 31 Mawrth |
3,896 |
3,896 |
(c) Y gronfa asedau a gafwyd yn rhodd
Mae’r gronfa asedau a gafwyd yn rhodd yn adlewyrchu gwerth ar bapur yr asedau a roddwyd i’r Comisiwn.
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Balans ar 1 Ebrill |
11 |
11 |
Ychwanegiadau yn ystod y flwyddyn |
- |
- |
Ailbrisio yn ystod y flwyddyn |
- |
- |
Balans ar 31 Mawrth |
11 |
11 |
17. Nodiadau sy’n cyd-fynd â’r Datganiad Llif Arian
(a) Cysoni’r costau gweithredu â’r llifau arian gweithredu
|
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
|
|
|
|
Costau gweithredu net |
|
(44,369) |
(41,500) |
Addasiadau ar gyfer trafodion heb fod yn arian parod: |
|
|
|
(Cynnydd)/gostyngiad mewn stoc |
|
7 |
(5) |
(Cynnydd) mewn dyledwyr |
|
(231) |
(325) |
Llai symudiadau mewn dyledwyr mewn perthynas ag eitemau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Datganiad Costau Gweithredu |
|
(5) |
5 |
Cynnydd mewn credydwyr |
|
253 |
5,416 |
Llai symudiadau mewn credydwyr mewn perthynas ag eitemau nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y Datganiad Costau Gweithredu |
|
1,684 |
(2,917) |
Eitemau heb fod yn arian parod |
|
4,275 |
5,424 |
All-lif arian parod net o weithgareddau gweithredu |
|
(38,386) |
(33,902) |
(b) Dadansoddiad o wariant cyfalaf a buddsoddiadau ariannol
|
|
Nodyn |
2008-09£’000 |
2007-08£’000 |
|
|
|
|
|
Ychwanegiadau asedau sefydlog diriaethol |
|
8 |
(260) |
(142) |
Ychwanegiadau asedau sefydlog anniriaethol |
|
9 |
- |
(14) |
All-lif arian parod net o fuddsoddiadau |
|
|
(260) |
(156) |
(c) Dadansoddi cyllido
|
|
Nodyn |
2008-09£’000 |
2007-08£’000 |
|
|
|
|
|
Gan Gronfa Gyfunol Cymru (Cyflenwad) |
|
15 |
36,342 |
36,417 |
Gan Gronfa Gyfunol Cymru (taliadau uniongyrchol) |
|
15 |
640 |
589 |
Cyllido net |
|
|
36,982 |
37,006 |
(d) Cysoni’r gofyniad arian parod net â chynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod
|
|
Nodyn |
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
|
|
|
|
|
Gofyniad arian parod net |
|
4 |
(38,024) |
(33,502) |
Gan Gronfa Gyfunol Cymru (Cyflenwad) |
|
17c |
36,342 |
36,417 |
Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod |
|
|
(1,682) |
2,915 |
18. Ymrwymiadau cyfalaf
Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf y contractiwyd ar eu cyfer ar 31 Mawrth 2009 na 31 Mawrth 2008.
19. Ymrwymiadau o dan brydlesi
(a) Prydlesi gweithredu
Yn y tabl isod, nodir yr ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredu i dalu rhenti yn ystod y flwyddyn ar ôl y cyfnod ariannol hwn, wedi’u dadansoddi yn ôl cyfnod yr ymrwymiadau .
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Mae’r rhwymedigaethau o dan brydlesi gweithredu’n cynnwys: |
|
|
Tir ac adeiladau: |
|
|
Yn dod i ben cyn pen blwyddyn |
- |
- |
Yn dod i ben ar ôl blwyddyn ond cyn pen 5 mlynedd |
36 |
66 |
Yn dod i ben wedi hynny |
2,070 |
2,086 |
|
2,106 |
2,152 |
|
|
|
Eraill – argraffwyr a chopïwyr: |
|
|
Yn dod i ben cyn pen blwyddyn |
79 |
- |
Yn dod i ben ar ôl blwyddyn ond cyn pen 5 mlynedd |
2 |
95 |
Yn dod i ben wedi hynny |
- |
- |
|
81 |
95 |
(b) Prydlesi cyllidol
Nid oes unrhyw ymrwymiadau o dan brydlesi cyllidol.
20. Ymrwymiadau ariannol eraill
Mae tri o gontractau’r Comisiwn (nad ydynt yn brydlesi) yn gontractau na ellir eu diddymu, oherwydd natur trefniadau’r contract. Mae’r contractau’n ymwneud â darparu cymorth a gwasanaeth TGCh i’r Cynulliad, a rheoli gweinyddwyr ar gyfer y systemau Adnoddau Dynol a Chyllid a ddefnyddir gan y Comisiwn. Dangosir isod y taliadau y mae’r Comisiwn wedi ymrwymo iddynt ar ddiwedd y cyfnod ariannol, wedi’u dadansoddi yn ôl cyfnod yr ymrwymiadau.
|
2008-09 £’000 |
2007-08 £’000 |
Mae’r rhwymedigaethau o dan gontractau na ellir eu ddiddymu’n cynnwys: |
|
|
Yn dod i ben cyn pen blwyddyn |
- |
- |
Yn dod i ben ar ôl blwyddyn ond cyn pen 5 mlynedd |
30 |
79 |
Yn dod i ben wedi hynny |
5,527 |
4,000 |
|
5,557 |
4,079 |
Mae contractau eraill y Comisiwn yn cyfeirio at derfynu contract yn gynnar ond nid oes taliadau wedi’u pennu ar gyfer hyn. Byddai’r Comisiwn yn torri’r contract pe bai’n terfynu’r contract yn gynnar a gallai’r contractiwr hawlio iawndal am yr elw y byddai wedi’i ennill pe bai’r contract wedi parhau am y cyfnod llawn. Gan fod y ffigur hwn yn amrywio ar gyfer pob contract, nid yw’r contractau hyn wedi’u cynnwys yn y nodyn hwn.
21. Offerynnau ariannol
Nid yw’r Comisiwn yn cyhoeddi nac yn masnachu mewn offerynnau ariannol fel rhoi benthyciadau ac nid yw wedi benthyca arian. Mae’n dibynnu’n bennaf ar gyllid gan Gronfa Gyfunol Cymru am ei ofynion arian parod ac, felly, nid yw’n agored i risgiau hylifedd. Hefyd, nid oes ganddo adneuon arwyddocaol ac mae’r holl asedau a’r rhwymedigaethau perthnasol mewn sterling, felly nid yw’n agored i risg cyfradd llog na risg arian cyfred.
22. Rhwymedigaethau amodol
Mae gan Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad hawliau dan gontract i swm sy’n cyfateb i 10% o’u cyflog blynyddol gros gael ei gyfrannu tuag at bensiwn, ond nid ydynt i gyd wedi arfer yr hawl hon. Mae’r rhwymedigaeth yn parhau am chwe blynedd wedi i’w cyflogaeth ddod i ben, ac fe’u hamcangyfrifir fel a ganlyn:
|
Swm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2009 £’000 |
Swm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2008 £’000 |
Swm a dalwyd yn 2008-09 £’000 |
Sylwadau |
Cyfraniadau pensiwn gan staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad sydd: |
|
|
|
|
Yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd ond ddim yn cyfrannu at gynllun pensiwn |
75 |
29 |
- |
Posibl |
Wedi gadael swydd heb ymuno â chynllun pensiwn erioed |
43 |
43 |
- |
Annhebygol iawn |
Nid yw’r Comisiwn wedi ymgymryd ag unrhyw rwymedigaethau amodol mesuradwy nac anfesuradwy drwy roi gwarant, indemniad neu lythyr cysur.
23. Colledion a thaliadau arbennig
Dyma nifer a gwerth y colledion a’r taliadau arbennig a wnaed yn ystod 2008-09:
(a) Datganiad colledion
2008-09 |
|
Nifer yr achosion |
Gwerth £’000 |
Cyfanswm |
|
11 |
26 |
Iawndal |
|
1 |
- |
Colledion deongliadol |
|
3 |
1 |
Taliadau ofer |
|
6 |
1 |
Ex-gratia |
|
1 |
24 |
Yn ystod 2008-09 nid oedd unrhyw golledion arian parod na hawliadau ofer.
Yn ystod y flwyddyn, gwnaed un taliad iawndal o £20.00.
(b) Taliadau arbennig
|
|
Nifer yr achosion |
Gwerth £’000 |
Cyfanswm |
|
2 |
4 |
24. Trafodion â phartïon cysylltiedig
Mae’r Comisiwn yn cynnal nifer o drafodion â Llywodraeth Cynulliad Cymru ac adrannau eraill y llywodraeth a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys Trysorlys Ei Mawrhydi. Yn ogystal â hyn, mae’n cynnal trafodion rheolaidd â Chynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad – gweler nodyn 6. Yn ôl Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru mae’n ofynnol i’r Cynulliad, ar sail cynnig gan y Comisiwn, ethol Ymddiriedolwyr i Gynllun Pensiwn yr Aelodau.
Gall y Cynulliad roi cyfarwyddyd arbennig neu gyffredinol i’r Comisiwn at ddibenion, neu yng nghyswllt, arfer swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad.
Nid yw’r Comisiwn wedi ymgymryd ag unrhyw drafodion perthnasol gyda’r Comisiynwyr, yr uwch reolwyr nac aelodau agos o’u teuluoedd, na chyda sefydliadau lle mae gan y Comisiynwyr, yr uwch reolwyr neu aelodau agos o’u teuluoedd swyddi rheoli neu swyddi dylanwadol.
Er mwyn sicrhau tryloywder, nodir y mân drafodion hyn:
· Talwyd £3,319.99 i Ddinas a Sir Abertawe er mwyn ad-dalu costau swyddfeydd gwahanol Aelodau’r Cynulliad. Mae Peter Black AC yn gynghorydd yn Abertawe.
· Talwyd £4,844.07 i Gyngor Bro Morgannwg er mwyn ad-dalu costau swyddfeydd a chostau ysgrifenyddol gwahanol Aelodau’r Cynulliad. Mae Chris Franks AC yn gynghorydd ym Mro Morgannwg.
Y Comisiwn sy’n pennu cyflogau a lwfansau holl Aelodau’r Cynulliad a’r holl ddeiliaid swyddi, ynghyd â chyflogau a pholisïau amodau staff y Comisiwn. Caiff y Comisiynwyr, fel Aelodau’r Cynulliad, gyflogi aelodau o’u teuluoedd i weithio fel staff cymorth; does dim cyfyngiadau o ran cyflogi aelodau o deuluoedd y Comisiynwyr neu’r uwch reolwyr i weithio i’r Comisiwn.
Mae Cofrestr o Fuddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill Aelodau’r Cynulliad ar gael yn www.cynulliadcymru.org.